Tudalen:Drych yr Amseroedd, Robert Jones, Rhoslan.pdf/79

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

eu calonau. Yr oedd hyd yn nod eu gwisgoedd gweddus yn brawf eu bod yn ffieiddio balchder a choeg-wisgiadau. Yr oedd anwyldeb ganddynt am eu gilydd, fel nad oedd dim yn fwy hoff ganddynt na chyfeillach eu gilydd; yr oedd cariad brawdol fel rhosyn peraroglaidd yn arogli yn beraidd yn eu plith; er nad oeddynt ar y goreu heb eu brychau ac efrau yn gymysgedig â hwy.

YMOF. Gan fod cymaint o elyniaeth tuag at yr efengyl yn y gwledydd y dyddiau hyny, pa fodd y cafwyd lle i bregethu mewn amrywiol fanau yn Ngogledd Cymru?

SYL. Eiddo yr Arglwydd y ddaear a'i chyflawnder; ac efe sydd yn llywodraethu yn mreniniaeth dynion. Cafodd rhai eu galw trwy bregethiad y gair, ag oedd yn feddianwyr ar eu tir a'u tai eu hunain. Yr oedd hefyd rai o'r boneddigion mor dyner a pheidio gorthrymu eu deiliaid yn achos crefydd. A phan y bwrid rhai allan o'u trigfanau am arddel crefydd, trefnai Rhagluniaeth ymwared iddynt o le arall. Cododd amryw yn y gwledydd i arfer eu doniau i hyfforddi eu gilydd yn y pethau a berthynent i'w tragywyddol ddyogelwch a'u hapusrwydd; a gwnaeth yr Arglwydd ddefnydd o honynt i oleuo amryw i weled eu cyflwr truenus ac andwyol, a'u cyfarwyddo i'r wir noddfa, a'u taer gymhell i ddyfod at Grist, ac i gredu ynddo, fel у caent fywyd yn ei enw; gan ddangos y perygl o hyderu ar eu cyfiawnderau eu hunain, ac na chyfiawnheir neb trwy weithredoedd y ddeddf: a dangos hefyd, nad yw gwir ffydd yn gadael neb sydd yn feddiannol arni yn segur na diffrwyth, ond yn eu gwneuthur yn awyddus i weithredoedd da: ac er nad oedd eu gwybodaeth a'u doniau ond bychain, eto yr oeddynt mewn zêl ac awyddfryd duwiol â'u holl galon am i'r bobl gael eu hachub.

Yr amser hyny y sefydlwyd cyfarfodydd neillduol trwy, y Deheudir a'r Gogledd; a diau fod y diafol a'i weision yn dra digllawn wrthynt. Dechreuwyd eu cablu a'u henllibio, gan eu galw y WEDDI DYWYLL, a haeru yn haerllug mai godineb a phuteindra oedd yn cael eu cyflawni ynddynt: pan, mewn gwirionedd, Duw yn dyst, y gorchwyl fyddai yno, ac y sydd eto, yw darllen y Bibl, gweddïo, canu mawl, addysgu eu gilydd yn y pethau a berthynent i fywyd a duwioldeb, ac anog eu gilydd i gariad a gweithredoedd da. Y cyfarfod cyntaf o'r natur yma a gynaliwyd yn Sir Gaernarfon, mewn lle ar dir Plas Llangwynadl. Ac er yr holl ddirmyg a'r diystyrwch parhaus a fwrid ar yr ychydig grefyddwyr tlodion oedd yn y wlad, ac er gwaeled oedd yr offerynau, eto llwyddo yn raddol Yr oedd y gwaith.

YMOF. Gan fod yr holl ddyfais a gynlluniwyd wedi methu