Tudalen:Drych yr Amseroedd, Robert Jones, Rhoslan.pdf/8

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

yn rhyfygu dywedyd nad oes llawer o amherffeithrwydd yn fy ngwaith inau; gwnaethum fy ngoreu na byddai ynddo ddim ond sydd wirionedd. Cefais y rhan fwyaf o'r hanesion a fu or's 80 mlynedd gan rai oedd yn dystion cywir o'u gwirionedd. Os bernwch fy llafur gwael hwn yn deilwng o dderbyniad, darllenwch ef, a'ch plant ar eich ôl; o wneuthur felly cewch achos i ryfeddu daioni yr Arglwydd tuag atom ni y Cymry tlodion, yn enwedig yn yr oen bresenol. Ac wrth eich gadael, erfyniaf ar yr Arglwydd, yn ngeiriau y ddau ddysgybl, "Aros gyda ni; canys y mae yn hwyrhau, a'r dydd yn darfod."

Ydwyf eich annheilwng gyfaill, ROBERT JONES.

CAPEL Y DINAS,[1]

Chwef. 10, 1820.
  1. Y mae Awdwr y llyfr hwn yn cael ei adnabod fynychaf wrth yr enw Robert Jones Rhoslan, ond brydiau ereill gelwir of Robert Jones Ty Bwlcyn, a Robert Jones, Capel Dinas, neu Lôn Fudr. Yr achlysur oedd fel hyn, wedi iddo fod am amser yn cadw ysgol mewn gwahanol fanau yn Sir Gaernarfon, Sir Fflint, &c., sefydlodd mewn tyddyn o'r enw Tir Bach, Rhoslan; ac wedi bod yno am rai blynyddau cymerodd dyddyn helaethach, sef Tŷ Bwlcyn, lle y bu fyw hyd farwolaeth ei wraig; a chan fod un o hen gapeli y Methodistiaid yn y gymydogaeth hono o'r enw Dinas, lle yr ystyrid ei gartref crefyddol, gelwid ef cyn diwedd ei oes yn "Robert Jones Dinas," neu y "Lôn Fudr," enw arall ar yr un lle; ac mewn tŷ a adeiladwyd iddo wrth y Capel hwnw y bu farw Ebrill 18, 1829—gwel "Llyfryddiaeth y Cymry," a "Methodistiaeth Cymru."