Tudalen:Drych yr Amseroedd, Robert Jones, Rhoslan.pdf/87

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Ni byddai raid bod dim anghydfod rhwng Arminiaeth ac Antinomiaeth; dwy o efeilliaid ydynt, un-fam un-dad; ond eu bod fel llwynogod Samson, yn edrych y naill yn wrthwyneb i'r llall; ond y maent yn cytuno yn un galon i losgi yr ŷd. Amhosibl yw bod neb yn Arminiad heb fod hefyd yn Antinomiad, nac ychwaith bod yn Antinomiad heb fod hefyd yn Arminiad; canys y mae gwir ryddid efengylaidd yn rhyddhau y credadyn oddiwrth y naill a'r llall o honynt.

YMOF. Mae yn amlwg, fel y dywed yr apostol Pedr, fod y gelyn diafol megys llew rhuadwy yn rhodio oddiamgylch, gan geisio y neb a allo ei lyngcu. Ambosibl yw ei wrthsefyll heb holl arfogaeth Duw, a chynorthwyon parhaus yr Yspryd Glan i'w defnyddio. Ond chwennychwn glywed genych, a lwyddodd y gelyn trwy y ddichell hon, i lusgo rhai o'r eglwys (o'r hyn lleiaf mewn enw o fod ynddi,) heblaw eu gwywo yn eu proffes, eu nychu yn eu heneidiau, a'u difreintio o lawer o orfoledd yr iachawdwriaeth?

SYL. Do, ambell un, o amser i amser mewn amryw fanau; rhai gan feddwdod, rhai gan odineb, a rhai gan dwyll a chelwydd, &c., a gorfu eu diarddel er gofid i rai, a gwawd i ereill: ond trugaredd dirion yr Arglwydd fod mor lleied, wrth ystyried mor lluosog yw y corph o broffeswyr, a chymaint o weddill llygredd sydd yn mhawb. Cafodd rhai o honynt wir edifeirwch ac adferiad, er nad ymadawodd y cleddyf â'u tai byth: ereill a aethant rhagddynt yn eu gyrfa bechadurus hyd ddiwedd eu hoes.

YMOF. Mae yn addas ac yn bryd i bawb o honom ystyried cynghor yr apostol: "Yr hwn sydd yn sefyll, edryched na syrthio." Ond a ddarfu i'r hudoles hon, sef Penrhyddid, newid ei gwisgoedd, ei lliw, ei llais, a'i henw, weithiau; ac ymddyeithrio, fel gwraig Jeroboam, er mwyn cael derbyniad mwy croesawgar gan ei chanlynwyr? A cofleidiwyd hi gan ryw bersonau, ac mewn rhyw ardaloedd yn fwy na'u gilydd?

SYL. Pan y cai gyfle i hau ei chyfeiliornadau, ymwisgai yn wych, gan goluro ei hwyneb, fel Jezebel gynt; a newid ei dull braidd mor aml a'r lleuad: odid iddi fod yn yr un wisg yn y naill wlad ag y byddai mewn gwlad arall, rhag ei hadnabod. Gellir dywedyd am dani, y twyllai hi, pe byddai bosibl, ïe, yr etholedigion. Ond i ateb eich gofyniad am y personau, ac yna am y lleoedd, y gwnaeth hon fwyaf o alanastra. Soniais o'r blaen am Thomas Seen a'i ganlynwyr; dywedai y rhai hyny nad oeddynt yn pechu, er ymdrybaeddu mewn meddwdod a'r cyffelyb ffieidd-dra; mai yr "hen ddyn" oedd yn meddwi, &c. Am T. Meredith, a M. Lewis, a'u dylynwyr, haerent hwy fod