Tudalen:Drych yr Amseroedd, Robert Jones, Rhoslan.pdf/88

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

dwy anian yn mhawb, y naill yn esgyn i fyny, ac mai Judas oedd у llall yn myned i'w lle ei hun; ac na ddylid barnu arnynt am newydd-loer na Sabbath, ei bod yn Sabbath arnynt hwy bob dydd fel ei gilydd; ac y gallent brynu gwerthu, &c., y diwrnod hwnw fel diwrnod arall, a llawer o'r cyffelyb amryfuseddau.

Y nesaf oedd Mr. Popkin, gŵr boneddig o'r Deheudir. Bu rai blynyddoedd yn pregethu yn mhlith y Methodistiaid; ond у gwyrodd at athrawiaeth un Robert Sandeman, o Scotland. Cafodd rai canlynwyr dros amser, ond nid oeddynt ond nifer fechan. Arwyddair yr hen swyn-wraig yn mysg y rhai hyny, oedd credu noeth, hollol ymddifad o bob effeithiau sanctaidd. Tramwyodd Mr. Popkin mor bell a Sir Gaernarfon i blanu ei egwyddorion; ond gwywo a wnaethant yn llwyr yno. Ac yn ol pob tebygoliaeth, diwedd hollol a fuasai ar y grefydd yma yn Nghymru, oni buasai i gangen o Fedyddwyr ei phriodi i godi hâd i'r marw: ond lled amhlantadwy ydyw hi yno hefyd.

Yn ganlynol i hyny, tarawodd o ganol y praidd yn Sir Aberteifi, ŵr tra nodedig, wedi ei gynysgaeddu â doniau helaeth; a bu dros amser mewn cymeradwyaeth mawr fel pregethwr yn mhlith у Methodistiaid, gan mwyaf drwy Gymru. Ond y mae lle i feddwl wrth y canlyniad, iddo yn lled fore yfed traflwngc glew o gwpan yr hudoles: canys chwyddodd yn anferth; a dywedant mai dyna yr effeithiau mae yn ei adael ar bawb a yfo o'i phiol, ac y mae yn naturiol i'r naill ei gael oddiwrth y llall. Glynodd hwn, fel y gwahanglwyf, yn ormodol wrth rai hyd derfyn eu hoes. Yn y dyddiau hyny fe ymdaenodd ysgafnder, fel pla, trwy amryw o ardaloedd Deheubarth a Gwynedd. Ac er ei fod, trwy fawr ddaioni yr Arglwydd, wedi ei ddileu i raddau lled helaeth o'r eglwysi, eto y mae ei greithiau i'w gweled yn amlwg hyd heddyw yn y manau y cafodd fwyaf o dderbyniad. Ar ei ymadawiad oddiwrth y rhai oedd yn cael eu hanfoddloni yn ei ymddygiad balch a chellweirus, meddyliodd ond troi allan fel pen-athraw, y buasai mwy na haner Cymru yn wirfoddol o'i blaid. Ymosododd yn egnïol at ei orchwyl rhyfygus. Ond ei fawr siomedigaeth, ni chafodd nemawr o ganlynwyr, na'r rhai hyny ychwaith ond tros ychydig amser: gadawyd ef gan bawb fel halen diflas, heb fod yn gymhwys i'r tir nac i'r domen. "Y rhai a ymdroant i'w trofeydd, yr Arglwydd a'u gŷr gyda gweithredwyr anwiredd: a bydd tangnefedd ar Israel." Salm cxxv. 5.

Am y Parchedig Peter Williams, bu ef yn llafurus a ffyddlon flynyddau lawer yn y weinidogaeth. Bu yn offeryn yn llaw yr Arglwydd i droi llawer o dywyllwch i oleuni. Trwy ei lafur diball a'i ddiwydrwydd, daeth allan dri argraffiad o'r Bibl sanctaidd, ynghyda sylwadau tra buddiol ar bob pennod, a