Tudalen:Drych yr Amseroedd, Robert Jones, Rhoslan.pdf/89

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Mynegeir Ysgrythyrol;[1] hefyd rhai pethau defnyddiol ereill. Ond cafodd amryw eu hanfoddloni yn ei olygiadau ar athrawiaeth y Drindod; a hyny yn fwyaf neillduol yn ei sylwadau ar y bennod gyntaf o'r efengyl yn ol Ioan. Barnwyd ei fod yn gwyro at Sabeliaeth. Cymerodd rhai y gorchwyl mewn llaw o'i gyhuddo a'i geryddu yn llym, yn lle ei gynghori fel tad, yn ol addysg yr apostol, 1 Tim. v. 1. Yn yr ymryson a'r dadleu yn nghylch y pwngc (a diau yw na ddylasid goddef neb yn y corph ag a safai yn gyndyn dros y fath gyfeiliornad dinystriol ag yw Sabeliaeth,) collodd ef a hwythau, i raddau, yspryd addfwynder: ac mewn gormod o fyrbwylldra, yn lle gwneyd pob ymgais tuag at ei adgyweirio, bwriwyd ef allan o'r synagog. Mae lle i amheu i rai oedd yn blaenori yn y gwaith ruthro ar ŵr cyfiawnach na hwy eu hunain. Ond er pob tymhestloedd, "Coffadwriaeth y cyfiawn sydd fendigedig.

Yn fuan ar ol dechreu y diwygiad diweddar yn Nghymru, cyfododd yn Sir Benfro ddau frawd, John a James Relly, y rhai oeddynt Saeson o ran tafodiaith. Yr oedd un o'r ddau ddoniau helaeth i osod allan offeiriadaeth Crist: ond am na bu wyliadwrus i gadw o fewn terfynau y gwirionedd, cafodd yr hen hudoles o Benrhyddid gyfleusdra i ddenu yr athraw hwnw i gofleiddio un o'r ellyllon mwyaf uffernol a melldigedig oedd yn perthyn iddi; sef dal allan adferiad pob peth; hyny yw, y byddai i'r holl ddamnedigion, ïe, am a wn i, y cythreuliaid hefyd, gael eu rhyddhau a'u hachub trwy anfeidroldeb iawn y Cyfryngwr, ryw amser. Dyma gyfeiliornad tebyg i'r llyffaint hyny a ddaethant allan o safn y ddraig. Nid yw purdan y Pabyddion i'w gydmaru â hwn. Ond trwy fawr drugaredd ymlusgodd o Gymru yn foreu dan ei warth; ond dywedir fod rhywrai mor ddall a'i letya ef eto yn Lloegr. Hen arfer y gelyn yw hau efrau yn mhlith y gwenith yn mhob oes.

Am y lleoedd y taenodd y Jezebel hon ei hudoliaeth, a'r niwaid a ganlynodd, nid oes cymaint o achos cwyno yn bresennol, gan fod y gogleddwynt a'r deheuwynt nefol wedi chwythu ymaith, i raddau helaeth, y tarth afiach a fu gynt yn cuddio yr haul. Buaswn yn gwbl ddystaw yn ei gylch, ond er rhybudd a gocheliad i'r oesoedd a ddel, adroddaf ychydig am dano fel y canlyn. Mewn rhai manau yn mlaenau Sir A berteifi, yn enwedig Aberystwyth a'i chyffiniau, y gwnaeth y bwystfil hwn gryn niwaid dros amser. A Chil y cwm flodeuog, a rhai manau ereill yn Sir Gaerfyrddin,a iselwyd yn fawr, trwy roddi gormod o le i'r anghenfil o Benrhyddid i letya yn eu mysg; ond y mae y cryfarfog hwn wedi ei droi allan (gobeithio) yn lled lwyr er's talm, ac yr wyf yn hyderu na chaiff dderbyn-

  1. Y mae argraffiad newydd diwygiedig o'r Mynegeir wedi ei ddwyn allan yn ddiweddar gan H. Humphreys, Caernarfon, pris 5s 6ch. mewn llian hardd.