Tudalen:Drych yr Amseroedd, Robert Jones, Rhoslan.pdf/90

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

iad yno nac yn un man arall byth mwyach. Gwnaeth niwaid mawr yn nghymdeithas Castellnedd, a rhai lleoedd ereill yn Sir Forganwg, a diau i rai fyned i'w beddau dan eu creithiau o'r achos. Ond er y pla dinystriol a ddrygodd gymaint o ardaloedd, cafodd cannoedd, ïe, yn y manau mwyaf llygredig, eu cadw rhag ymlygru i droi gras ein Duw ni i drythyllwch. Ni ddiangodd Gwynedd ychwaith (rai manau o honi,) oddiar hudoliaeth y sarph wenieithus yma. Hauwyd cryn lawer o'i theganau twyllodrus yn benaf yn Nyffryn Clwyd, a rhai cyrau o Sir Fflint, gan eu chwythu hwynt i falchder, ysgafnder, a choeg-ddigrifwch. A chan eu bod yn ieuaingc mewn proffes, a chanddynt rai arweinwyr heb fawr o ofn Duw yn eu meddiannu, cawsant yn fuan eu llygru i'r fath raddau fel nad oedd llawer o'r athrawon mwyaf syml a sylweddol ond hollol ddiystyr yn eu golwg; na braidd neb yn eu boddio ond a fyddai yn cydredeg gyda hwynt i'r unrhyw ormod rhysedd. Bu hyny yn ddiau yn achos i'r Arglwydd wgu flynyddau ar yr ardaloedd: ond trwy anfeidrol ddaioni Duw, fe iachawyd y dyfroedd; er nad yw yr effeithiau wedi eu llwyr symud. Adwy y clawdd hefyd, er ei ffyddlondeb a'i charedigrwydd, a syrthiodd yn raddol yn ddiarwybod i flasu peth ar rith-wleddoedd yr hudoles, yn enwedig pan y daeth llwyddiant bydol i wenu ar yr ardaloedd. Ond nid llawer yno a yfodd o'i chwpan fustlaidd. Galwodd heibio yn lled foreu i Rosllanerchrugog; gwnaeth yno gryn lawer o'i hol dros lawer o flynyddoedd: ond pan ddaeth y dydd i ddechreu gwawrio, gorfu arni ffoi, fel y ddylluan, o faen pelydr haul cyfiawnder; a da yw os gallant ei hesgymuno yn llwyr o'r wlad, fel na roddo neb lety noswaith iddi byth mwy. Ac os cafodd hi yn ddiweddar ryw ddull newydd o wisgoedd symudliw o Loegr, dyeithriol i'r Cymry o'r blaen, i ymddangos ronyn yn fwy prydferth nag y bydd hi weithiau; am hyny mwy-fwy yw y perygl o'i chofleidio, yn enwedig gan fod nifer fawr o wŷr deallus wedi rhoi derbyniad croesawgar iddi. Ond rhag i neb gael eu siomi ganddi, gellir ei hadnabod wrth ei gwisgoedd. O Holland, gan un Iago Arminius, y cafodd hi wisg isaf: a darn o wê Ioan Calfin, o Geneva, yw defnydd ei chochl neu ei gwisg uchaf. Mae yn hawdd i chwi ddeall, ond craffu, mai nid y wisg ddiwnïad sydd ganddi, er mor hardd y mae yn ceisio dangos ei hun. Rhuf. xi. 6.

Cafodd Sir Fôn fwy o niwaid oddiwrthi, dros amser, na'r holl fanau a grybwyllwyd; hauodd ei hefrau yno yn gyffredin trwy y wlad; y rhan fwyaf o'r cymdeithasau yn y Sir a dynodd hi yn gwbl i'w rhwyd. Un o'i phrif byngciau yno oedd ymwrthod yn llwyr â'r ddeddf, nid yn unig fel cyfamod o weithredoedd am gymeradwyaeth gyda Duw, ond hefyd nad oedd angenrheidrwydd am dani fel rheol bywyd i gredadyn. Teganau