Tudalen:Drych yr Amseroedd, Robert Jones, Rhoslan.pdf/91

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

plant y cyfrifid addoliad teuluaidd gan y rhan fwyaf o'i chanIynwyr. Gofynodd un o brif athrawon y daliadau gwyrgam hyn i broffeswr ieuangc, "A wyddost ti pa fodd y cei wybod a wyt ti dan y ddeddf ai nad wyt?". Dywedodd hwnw wrtho, y byddai dda ganddo wybod; "Wele," ebe yntau, "dos i'th wely heb weddïo, ac os wyt dan y ddeddf fe â yr hen gydwybod yn derfysglyd i bwrpas; ond os wyt dan yr efengyl ti a gysgi yn dawel. Yr oedd ganddynt ryw ddull anamlwg o ymadroddi yn nghylch crefydd; sef deongli amryw o'r ysgrythyrau mewn dull ysprydol ag oeddynt i'w deall yn llythyrenol, megys y geiriau hyny a'u cyffelyb: "Y ddaear a'r gwaith fyddo ynddi a losgir:" sef y ddaear sydd mewn dyn, &c. Yr oedd hwnw yn bwngc credadwy yn eu plith, os caent unwaith afael mewn dyn, na byddai raid i hwnw byth betruso y cyfrgollid ef yn dragywydd, beth bynag a ddygwyddai iddo. Gwrthwynebwyd eu cyfeiliornadau gan amryw o'u gwlad eu hunain, a rhai o wledydd ereill; ond nid oedd dim yn tycio, nes o'r diwedd y syrthiodd rhai i feiau gwarthus, ac yna i wrthgiliad hollawl. Tua'r amser hyny daeth bygythiad oddiwrth ŵr boneddig, y byddai raid i bawb o'i ddeiliaid oedd yn proffesu, wadu eu crefydd, neu golli eu tiroedd. Yr oedd llawer o ofnau na ddaliai rhai mo'r tywydd; ond cafodd pawb gymhorth i sefyll dros y gwirionedd, ond y gŵr a fu a'r llaw benaf yn ffurfio daliadau Antinomaidd yn y wlad, ac oedd mor gyfarwydd i wybod a oedd dyn dan y ddeddf. Yn wyneb y bygythiad am golli ei dir aeth i Lundain at y gŵr boneddig i wadu ei grefydd; ac er y cyfan, hwnw yn unig a gollodd ei dyddyn, ac ni throwyd neb allan ond efe. Bu o hyny allan hyd ddiwedd ei oes yn adyn, fel dylluan y diffeithwch, dibarch gan bawb. Ond yr hwn sydd yn codi y tlawd o'r llwch a ymwelodd yn rasol â'r ynys hon yn ei hisel radd, gan yru ymaith y niwl afiachus, yn raddol, yn llwyr o'r wlad. Bu un cyfarfod misol a gadwyd yno yn foddion, dan fendith yr Arglwydd, i ddechreu dadymchwelyd castell yr hudoles: ac o hyny allan, trwy nerthol weithrediadau yr efengyl, diflanodd ymaith fel diffyg oddiar yr haul; fel y mae yn syndod gweled y wlad heddyw fel gardd Baradwys, ac yn galw yn uchel am ddiolchgarwch. Tua'r un amser mewn lle yn Sir Gaernarfon a elwir Rhos ddu, yn Lleyn, yr ymddangosodd y swyn-wraig ddichellgar, mewn gwisg hollawl wahanol i'r un oedd ganddi yn Môn. Yr oedd tymherau toddedig mewn addoliad yn bethau gwael a dirmygus, ac i'w gwrthsefyll hyd yr eithaf yn eu daliadau yno: ond yma yn gwbl i'r gwrthwyneb; canu a gorfoleddu oedd crefydd i gyd, heb argyhoeddiad, ond yn unig unwaith; nac edifeirwch na chalon ddrylliog oddieithr am ryw feiau mawrion; ac heb edrych cymaint pa fodd y byddai y fuchedd. Ac o radd i radd aeth y canu yn rhy debyg