Tudalen:Drych yr Amseroedd, Robert Jones, Rhoslan.pdf/92

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

i'r dawns o flaen y llo aur. Cyfrifent bawb a bregethai yn llym ac yn daranllyd, ac a ddynoethai dwyll y galon, a'r perygl o ymorphwys ar gau grefydd, yn debyg i Herod, mai am ladd y plant bychain yr oeddynt; a'u bod yn adeiladu Jerusalem â gwaed, &c. Nid llawer o bersonau fu yn arddel y grefydd yma, ac nid ymdaenodd ond ychydig; diflanodd yn fuan fel cicaion Jona. Ni bu fawr o lewyrch ar neb o'i dylynwyr tra buont byw. Gwrthgiliodd rhai yn hollawl.

Prin y gallaf farnu ei fod yn werth ei ysgrifenu na'i ddarllen yr ynfydrwydd digywilydd a luniwyd yn benaf gan wraig ymadroddus, rith grefyddol, a'i gŵr hefyd o'r gyfrinach. Yr oeddynt yn byw mewn tŷ ar fynydd Llanllyfni. Dechreuasant hysbysu i amryw eu bod wedi cael cydnabyddiaeth â rhyw dylwyth a elwid Anweledigion. Yr hanes oeddynt yn fynegi am danynt sydd debyg i hyn: Eu bod yn genedi luosog, mawr eu cyfoeth; ac yn blith draphlith mewn ffeiriau a marchnadoedd gyda ni; ac nad oedd neb yn eu canfod, ond y rhai oedd wedi ymroddi i fyned i'w cymdeithas. Yr oedd y gelyn diafol wedi llwyddo i beri i rai goelio y teithient hwy, eu meirch, a'u cerbydau, ar hyd yr eira heb i neb weled eu hol. Yr oedd y fenyw ddichellgar a soniwyd eisoes am dani wedi cael gan ryw nifer gredu fod gŵr boneddig mawr yn byw yn agos i'w thŷ ar y mynydd, mewn palas godidog, gyda'i ferch, a'u henwau oedd Mr. a Miss Ingram. Ymgasglai cryn lawer o ynfydion, gan mwyaf o bell y byddent yn dyfod, i gadw math o gyfarfodydd yn y nos, heb oleuni canwyll na fflam y tân, ond a gaid oddiwrth y marwor: canys ni allai y tylwyth anweledig oddef y goleuni. Weithiau deuai yr hen ŵr boneddig i bregethu iddynt ei hun; bryd arall y ferch a ddeuai mewn dillad gwynion. Ar ol treulio talm o amser cyn cael allan y twyll, dygwyddodd i ryw ddyn cyfrwysach nag ereill o'r frawdoliaeth, graffu yn fanwl ac adnabod yn eglur mai gwraig y tŷ oedd yn dyfod atynt i'w twyllo; weithiau mewn dillad mab, bryd arall mewn dillad merch. Gwaeddodd y dyn allan: "Gwrandewch, bobl, ein twyllo ydym yn gael yn ddiamheuol! myfi a wnaf fy llw mai M—— yw hon." Gyda hyny aeth yn derfysg trwy y tŷ, a gorfu i'r creadur tlawd ddiangc am ei einioes. Aeth y ddichell uffernol hono i warth, a chynifer oll â ufuddhasant iddi a wasgarwyd; ac nid aethant rhagddynt yn mhellach, eu hynfydrwydd a ddaeth yn amlwg i bawb. Yn fuan ar ol hyny daeth un arall yn genad dros y diafol, o Ynys Fôn i Sir Feirionydd. Ei henw oedd Mari Evans, a gelwid hi yn gyffredin, Mari y fantell wen. Gadawodd ei gŵr a chanlynodd ŵr gwraig arall, gan haeru ill dau nad oedd y briodas gyntaf ond cnawdol, ac nad oedd yn bechod ei thori; ond bod eu priodas hwy yn bresennol yn ysprydol ac yn iawn. Buont ryw dalm o amser