Tudalen:Drych yr Amseroedd, Robert Jones, Rhoslan.pdf/93

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

yn crwydro o'r naill wlad i'r llall, a bu iddi ferch o hwnw. O'r diwedd darfu iddo ei gadael, a hithau a wladychodd ger llaw y Traeth Bychan hyd ddiwedd ei hoes. Cafodd gan luaws mawr o ynfydion tywyll yr ardal hono a Ffestiniog, hefyd Penmachno, a rhai manau ereill, goelio ei bod yn un â Christ, ac mai yr un peth oedd dyfod ati hi a dyfod at Grist; a pha beth bynag a wneid iddi, neu erddi, mai yr un ydoedd a phe gwnaethid ef i Grist yn bersonol. Twyllodd ei dylynwyr i gredu ei bod wedi priodi cyfiawnder; danfonwyd iddi lawer o anrhegion at y briodas, a lluniwyd neithior odidog iddi yn Ffestiniog; gwisgwyd hi yn wych odiaeth, fel cangen haf, ar gost ei chanIynwyr, gan ei harwisgo â mantell goch gostfawr, a myned yn lluoedd, a hithau yn eu canol, i eglwys y plwyf, ac oddiyno i'r dafarn hyd yr hwyr, i halogi y Sabbath. Hi a berswadiodd ei dysgyblion na byddai hi farw byth (fel y rhith brophwydes hono, Johanna Southcott;) ond er ei hamod ag angeu, a'i chyngrair ag uffern, cipiwyd hi ymaith oddiyno i'w lle ei hun: cadwyd hi yn hir heb ei chladdu, gan ddysgwyl yr adgyfodai drachefn. Gellwch wybod ei bod yn dywyllwch a ellid ei deimlo yn yr ardal y cafodd y fath fudrog a hon y gradd lleiaf o dderbyniad: ond gwir yw y gair, "Pan dybient ei bod yn ddoethion, hwy a aethant yn ffyliaid." Ond er i rai o'r trueiniaid tywyll lynu wrth yr ynfydrwydd a soniwyd dros amser ar ol marwolaeth eu heulun, eto diflanodd yn raddol o flaen efengyl gallu Duw.

YMOF. Wele y mae yr hyn a adroddasoch yn dangos tri pheth yn amlwg, sef, dichellion diorphwys Satan yn erbyn eglwys Dduw; hefyd mawr ddallineb ac ynfydrwydd dynolryw trwy bechod, yn cymeryd eu harwain yn wirfoddol gan y gelyn uffernol i bob rhyw ffiaidd gyfeiliornadau; a chyda hyny, gariad, ffyddlondeb, a gofal yr Arglwydd dros ei eiddo, yn dryllio eu cadwynau, yn dyrysu bwriadau eu gelynion, ac yn gwaredu eu bywyd o ddistryw. A ddarfu i chwi sylwi ar ddim arall a fu yn debyg o ddyrysu peth ar y gwaith, yn fwyaf neillduol yn Ngwynedd?

SYL. Dyfodiad y Bedyddwyr i'n gwlad a' barodd gynhwrf nid bychan trwy y wlad yn gyffredin, am fod eu dull o weinyddu yr ordinhad o fedydd yn hollol ddyeithr i'r rhan fwyaf yn y gwledydd hyn. A chan ei fod felly, ac fel y dywed y ddiareb, "Gwŷn pob peth newydd," ymgasglodd torfeydd lluosog o bob ardal i'w gwrandaw, ond yn fwyaf neillduoli edrych arnynt yn bedyddio. Yr oedd eu dull yn trochi meibion, a merched yn mhob gwlad ac ar bob math o dywydd, yn ymddangos yn hynod o beryglus a niweidiol i iechyd, os nad i fywydau rhai gweiniaid. Esiampl Crist yn cael ei fedyddio gan Ioan yn yr