Tudalen:Drych yr Amseroedd, Robert Jones, Rhoslan.pdf/94

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Iorddonen oedd eu rheswm cadarnaf am eu trefn. Os canlyn esiampl Crist a ddylem yn mhob peth, paham na ddylynem ef yn ei enwaediad? Nid oedd goruchwyliaeth yr efengyl, dan y Testament newydd, wedi ei sefydlu yn nyddiau Ioan Fedyddiwr, am hyny meddai Crist, "Yr hwn sydd leiaf yn nheyrnas nefoedd sydd fwy nag ef." Mae eu haraeth wrth fedyddio yn fynych yn anaddas i natur yr ordinhad sanctaidd hono, yr hon a ddylai gael ei gweinyddu megys yn ngwydd Duw, gyda'r symlrwydd mwyai: yn lle hyny bydd rhai mor ryfygus yn eu haraeth a galw pawb i'r maes o bob enw, gan ddywedyd yn debyg i'r Goliath hwnw gynt, "Pwy a ymladd â mi?" Nid oes dim yn cynhyrfu eu zêl yn fwy na dadleu yn erbyn bedydd babanod, er i Grist ddywedyd mai "Eiddo y cyfryw rai yw teyrnas nefoedd." Mae lle i ofni fod gormod yn eu mysg o'r rhai na phrofasant ysprydolrwydd y ddeddf na gwerthfawrogrwydd y Cyfryngwr, yn pwyso yn ormodol ar eu bedydd, a braidd yn benderfynol na chedwir neb mewn oedran heb gael eu trochi yn gyntaf; beth bynag yw eu meddyliau am y lleidr ar y groes. Wrth ddywedyd hyn nid wyf yn taflu y diystyrwch lleiaf ar y corph o Fedyddwyr, y rhai a fuont yn llafurus, ac yn ddefnyddiol yn ngwinllan yr Arglwydd hyd heddyw, er's oesoedd mewn llawer gwlad, ac a oddefasant lawer o erlidigaethau blinion. Bu, ac y mae yn eu plith lawer o bregethwyr enwog yn Nghymru, Lloegr, a gwledydd ereill: a phwy sydd fwy defnyddiol na'r Dr. Carey yn yr India Ddwyreiniol? Ond ni ddiangasant hwythau heb ymraniadau terfysglyd, er gofid i bob gwir dduwiol: aeth rhai yn fore yn Arminiaid, ereill yn fwy diweddar yn Sociniaid, a rhyw ychydig yn Sandemaniaid. Ond nid yw y gwenith ddim gwaeth am fod efrau yn tyfu yn yr un maes. Yn ganlynol fe derfysgwyd Gwynedd a'r Deheudir i gryn raddau trwy ddyfodiad y Wesleyaid i Gymru. Heidiodd y gwerinos yn lluoedd i wrando arnynt o bob parth, fel y buasech yn meddwl ar y cyntaf yr aethai y byd yn llwyr ar eu hol. Yr oedd llawer o wrandawyr cyffredin mor dywyll na wyddent ragor rhwng_gwirionedd a chyfeiliornad; ac ereill wrth glywed am drefn Duw yn achub yn rhad y penaf o bechaduriaid, heb arian ac heb werth, yn llidio yn ddirgelaidd yn erbyn arfaeth ac etholedigaeth gras; a chan nad oedd ganddynt resymau digonol i amddiffyn eu hegwyddorion deddfol, wrth wrando ar athrawiaeth prynedigaeth gyffredinol, cawsant eu cadarnhau yn eu tybiau am grefydd, oblegyd yr oedd y golygiadau hyny yn boddio eu harchwaeth yn rhagorol. Am eu hathrawiaethau nid ydynt yn llwyr wadu y pechod gwreiddiol fel yr hen Arminiaid; yr hyn sydd ry wrthun y dyddiau hyn i neb geisio sefyll drosto, rhag i'r babanod fu farw cyn pechu yn weithredol eu cyhuddo am eu tybiau cyfeiliornus, a sefyll