Tudalen:Drych yr Amseroedd, Robert Jones, Rhoslan.pdf/96

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

a'r deallus trwy yr holl amser; a thrwy hyny fe gafodd yr efengyl y wlad o'i blaen i daenu ei newyddion da yn y prifffyrdd a'r caeau, trefydd, pentrefi, mynyddoedd a glanau y moroedd, &c. yn ddirwystr, oddieithr y byddai ychydig erlid weithiau. Y cyntaf a ddefnyddiodd y gyfraith oedd rhyw ŵr boneddig oedd yn byw yn Sir Feirionydd. Dalwyd un William Pugh, a gorfu arno dalu ugain punt o ddirwy. Ciliodd L. Morris i'r Deheudir rhag ei ddal, ac yno rhoddodd ei hun dan nodded y llywodraeth. Erbyn hyn, wrth weled y dymhestl yn dyfod, yr oedd yn llawn bryd diangc ar frys i ryw le am ddyogelwch. Nid oedd rhaid ond wynebu at yr fam hynaws, llywodraeth Prydain, nad oedd hon yn union yn barod i daenu ei haden gynhes dros y gorthrymedig. Fo gafodd llawer o'r pregethwyr tlodion eu dirmygu i'r eithaf mewn llysoedd barnol wrth geisio yr hyn oedd y gyfraith yn ganiatâu. Gorfu ar bregethwyr Sir Feirionydd gael cyfreithiwr i ddadleu eu hachos cyn llwyddo gyda'r mawrion. Ar ol cael y pregethwyr a'r capeli dan nodded y gyfraith, yn fuan ar ol hyny daeth cynygiad newydd i'r Senedd i gaethiwo ar ryddid. Ond er mawr siomedigaeth i lawer (fel Haman gynt,) yn lle cyfyngu rhyddid crefyddol, eangwyd ei derfynau yn fwy nag y buasai o'r blaen er's llawer o oesoedd. A chan fod eglwysi yn amlhau, a'r gweinidogion a fyddai yn arferol o ddyfod atom wedi heneiddio, a rhai o honynt wedi marw, barnwyd fod angen neillduol am ryw lwybr i'r eglwysi gael eu breintiau. Ffurfio y drefn i ddwyn hyn yn mlaen oedd waith anhawdd, ac yn gofyn llawer o bwyll a doethineb; a gadael i'r henafgwyr oedd yn blaenori mewn gwybodaeth a gras (mewn undeb a'r rhai cymhwysaf o'r ieuengctyd) ystyried y mater yn ddwys ac yn ddifrifol cyn ei benderfynu. Ond nid mor ganmoladwy yr ymddygodd rhyw ychydig o'r pregethwyr ieuaingc yn yr achos. Yr oeddynt mor danbaid anorchfygol, yr oedd raid ei gael i ben yn ddiymaros, beth bynag fyddai y canlyniad; heb ystyried y dylesid mewn addfwynder ddysgu y rhai gwrthwynebus. Tybiodd y gelyn uffernol, wrth weled gradd o annghydfod, mai rhwyg a fyddai y canlyniad; ond methodd gael ei amcan i ben. I'r dyben o wneyd pawb yn dawel, ac yn siriol at eu gilydd, yr Arglwydd a gymerodd y Parchedig T. Charles o'r Bala yn ei law, i sefyll ar yr adwy: a thrwy ei ddoethineb a'i larieidd-dra fel cymedrolwr hynaws a thirion, sefydlodd ef, yn nghyda'r corph yn gyffredin, drefn esmwyth a boddhaol, i ddwyn y gwaith yn mlaen heb friwo neb; sef ordeinio rhyw nifer fechan o bregethwyr o bob sir, at y rhai oedd o'r blaen, i weinyddu yr ordinhadau o fedydd a swper yr Arglwydd, a'r rhai hyn o ddewisiad cyfarfod misol eu sir, gan chwanegu atynt mewn amser i ddyfod, yn ol y byddai yr