Tudalen:Drych yr Amseroedd, Robert Jones, Rhoslan.pdf/97

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

achos am danynt. Methodd gan ryw ychydig yn y Deheudir a chydsynio â'r drefn, ac y maent hyd yma wedi sefyll allan ar eu penau eu hunain: ond nid ydynt ond ychydig nifer, ac nid oes ganddynt un rheswm digonol i gyfiawnhau eu hymddygiad. Ond er fod ein breintiau yn helaeth, a'r gwaith dan ei goron (er nad heb ei frychau,) er hyny, os yr Arglwydd ni cheidw y ddinas, ofer y gwylia y ceidwaid. Mae yn gof genyf glywed i hen ŵr duwiol o Ymneillduwr rybuddio y corph o Fethodistiaid mewn geiriau tebyg i hyn, "Fy mrodyr, gwawriodd bore arnom ninau yr Ymneillduwyr, a bu llawer o bresenoldeb yr Arglwydd yn ein plith, yn nghanol erlidiau; ond nid oedd trefn arnom y pryd hyny fel y dymunasem. Ond wedi cael rhyddid cydwybod i addoli Duw, ac ymgorphori yn eglwysi, a chael gweinidogion yn rheolaidd, aeth yn ganol y dydd arnom. Ond nid hir iawn y bu heb ddechreu nosi: aeth yn gyntaf, yn ail, ac yn drydydd, gan amryw o'n gweinidogion ni, heb fawr o enaid y weinidogaeth; newidiwyd y tarianau aur am rai prês. 1 Bren. xiv. 27. Am danoch chwithau, y Methodistiaid, gwawriodd bore lled ddeffrous arnoch chwithau, ond yr oeddych yn ddigon annhrefnus flynyddau lawer; ond yn awr mae yn ganol dydd arnoch chwithau. Y mae eich capelydd yn fawrion ac yn drefnus, eich gweinidogion yn ddoniol, a chan mwyaf yn drwsiadus, eich gwrandawyr yn lluosog, a'r wlad yn gyffredin yn eich parchu. Gwiliwch! O gwiliwch! rhag y bydd raid i'r gwyliedydd waeddi arnoch, 'Daeth у bore a'r nos hefyd.'" Y mae y rhybudd uchod yn deilwng o sylw pob un o honom; gan gofio geiriau yr apostol, "Yr hwn sydd yn tybied ei fod yn sefyll edryched na syrthio."

YMOF. Mae genym fawr achos i ryfeddu daioni a thiriondeb yr Arglwydd tuag atom, yn mysg aneirif luoedd ereill o'i fendithion, am gadw cymaint o undeb a brawdgarwch yn ein plith gyhyd o amser, er i'r gelyn roi cynyg lawer gwaith i ddyrysu ac i ddiddymu yr undeb. Onid ellir barnu fod y Cymanfeydd (Associations) a'r cyfarfodydd misol yn llaw Rhagluniaeth ddwyfol, a thrwy, arddeliad yr Arglwydd arnynt yn foddion neillduol i ddal i fyny undeb a brawdgarwch yn y corph trwy yr holl dalaith? Dymunwn glywed genych pa fodd y dechreuodd y cyfarfodydd hyny, a pha fodd y cynyddasant i'r agwedd sydd arnynt yn bresenol?

SYL. Y Gymdeithasfa gyntaf a gynaliwyd yn nhy Jeffrey Dafydd, o'r Rhiwiau, ymhlwyf Llanddeusant, yn Sir Gaerfyrddin. Yr oedd yn bresennol yn y cyfarfod hwnw (sef y blaenffrwyth o honynt yn Nghymru, Meistriaid Howell Harris, Daniel Rowlands, William Williams, o Bant y celyn, ac