Tudalen:Drych yr Amseroedd, Robert Jones, Rhoslan.pdf/99

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

cynal ar y cyntaf tros rai blynyddoedd, ond mewn dau le yn Sir Gaernarfon, sef y Tŷ mawr, a'r Lôn Fudr. Nid oedd un cyfarfod neillduol ynddynt y dyddiau hyny; yn unig y pregethwyr (rhyw nifer fechan iawn oeddynt) a ddeuent ynghyd ychydig cyn y bregeth, i drefnu eu teithiau Sabbathol dros y mis i bregethu. Yna fe bregethai un o honynt i nifer fechan o wrandawyr, wedi hyny âi pawb i'w cartrefi. Nid oedd yn y dyddiau hyny neb mwy na'u gilydd wedi eu sefydlu fel blaenoriaid yn mhlith y cymdeithasau neillduol; ac oherwydd hyny, am nad oedd neb yn myned tros ei ardal i'r cyfarfod misol, byddai llawer cwr o'r wlad, amryw o Sabbathau, heb neb i bregethu. Ond fel yr oedd rhai o newydd yn cael eu cymhell i lefaru, a mwy o alwad am weinidogaeth y gair trwy y wlad yn gyffredin, barnwyd yn angenrheidiol i'r cyfarfod misol gael helaethu ei derfynau. A chan nad oedd cyfleusdra i'w dderbyn, na galwad am dano, ond mewn ychydig o fanau yn y wlad, gorfu ei anfon, fel yr arch gynt, o fan i fan trwy y wlad: weithiau mewn pentrefi, ac mewn rhai trefydd ceid cenad i'w gynal gan amryw o'r tafarnwyr er mwyn yr ychydig elw a gaent oddiwrtho. Diau, yn ei gylchdro fel hyn, i'r Arglwydd ei arddel i fod yn fendith i lawer. Deuai cannoedd i wrando i loedd cyhoeddus fel hyn, na ddeuent yn agos i bregeth mewn tŷ na chapel. Wedi talm o amser adeiladwyd capeli, y naill ar ol y llall, ac yn y rhai hyny y cynhelir y cyfarfodydd misol yn bresenol. Sefydlwyd blaenoriaid hefyd i ofalu am, ac i iawn drefnu achosion yr eglwysi. Cyffelyb i'r un dull y maent yn cael eu cynal â'r Gymdeithasfa; ond eu bod yn perthyn yn unig i un sir, a'r llall i amryw siroedd ynghyd.

YMOF. Mae yn amlwg wrth olygu y gwaith o'i gychwyniad, a pha mor wael oedd yr offerynau a ddefnyddiwyd i'w ddwyn yn mlaen, y gellir dywedyd gyda'r Salmydd, "O'r Arglwydd y daeth hyn: hyn oedd ryfedd yn ein golwg ni." A fyddai yn anhawdd genych roi ychydig o hanes y capeli cyn dybenu?

SYL. Nid oedd trwy holl Wynedd yn nechreu y diwygiad yn mhlith y Methodistiaid, sef tua'r flwyddyn 1736, ond chwech o dai addoliad, heblaw gan Eglwys Loegr, yn perthyn i un enw o grefyddwyr, sef dau yn Ngwrecsam, un yn Llanfyllin, un yn Newmarket, un yn Ninbych, ac un yn Mhwllheli. Yr oeddynt oll yn perthyn i'r Annibynwyr, ond un yn Ngwrecsam oedd yn eiddo'r Bedyddwyr. Y capel cyntaf a adeiladwyd yn Nghymru gan y Methodistiaid, oedd y Groes wen yn Sir Forganwg: a'r cyntaf yn Ngogledd Cymru oedd Adwy y clawdd yn Sir Ddinbych; y cyntaf yn Sir Feirionydd oedd capel y Bala: y cyntaf yn Sir Flint oedd capel y Berthen gron: y cyntaf yn Sir Gaernarfon oedd capel Clynog; a'r cyntaf