WRTH FEDD Y PROFFWYD.
(Y Diweddar Barch. Samuel Roberts, Dinbych).
"A gwybu holl Israel, o Dan hyd Beerseba,
mai prophwyd ffyddlawn yr Arglwydd oedd Samuel."
FE'I galwyd gan Dduw i broffwydo.
O Dan hyd Beerseba yr aeth,
A neges y nef ar ei wefus;
A'i thraethu'n angherddol a wnaeth.
'R oedd dyfnder yr afon fordwyol,
A swynion y " dyffryn " a'r "nant,"
A bythol gadernid y "bryniau
Ym mhregeth y proffwyd a'r sant.
Mor fwyn ydoedd bloedd ei hyfrydlais
(Dychmygaf ei chlywed yn awr).
A loes heb ei disgwyl a gafwyd
Pan dorrwyd y proffwyd i lawr.
Iddo ef Cymanfa oedd bywyd.
Pregethai i gyrddau llawn.
Ond cais oddi fry a ddaeth ato
I fynd adre 'r ol oedfa'r prynhawn.
Rhaid plygu i drefn Y Goruchaf.
Y Meistr yn unig a ŵyr
Y rheswm na chafodd Ei gennad
Ddim aros tan oedfa yr hwyr.