lle y dechreua hynny o stori y sy gennyf. Nid Robin Goch oedd yr unig un a ddeuthai i Lan Alwen y diwrnod hynod hwnnw. Ni chlywsid cri baban bach ar yr aelwyd hon o'r blaen ers agos i hanner can mlyn—edd. Ond pan ddaeth y bychan hwn welsoch chwi 'rioed y fath groeso a gafodd. Cyn pen yr wythnos 'r oedd pawb yn dotio ato, a chyn pen y mis 'r oedd popeth yn y tŷ yn gorfod rhoi ffordd iddo.
Un o'r rhai oedd wedi gwirioni fwyaf arno ydoedd Nain. 'R oedd hi yn nain i fam y babi, petai waeth. Ond Nain y gelwid hi gan bawb. Byth ni chyfaddefai ei bod yn hen—" dechre mynd i oed " yr oedd, meddai hi. Wyth fydda i y tro nesa," ebr hi, gan gogio nad oedd wyth a phedwar ugain nac yma nac acw. Serch hynny yr oedd Nain wedi " dechre mynd i oed ers plwc byd; ac erbyn hyn yr oedd yn bur ffwndrus ar brydiau. Fel y gwelwyd llestr dŵr neu gunnog odro ambell dro ar ol hir draul yn gwisgo'n dwll ac yn dechreu colli; felly Nain; 'r oedd ei meddwl hithau o'r diwedd wedi gwisgo'n dyllau mewn mannau. Mae gennyf go' plentyn cael fy anfon gan fy mam ar neges i Lan Alwen oddeutu'r adeg yma. Euthum at y drws, a churais yn ysgafn, gan ddisgwyl clywed y gwahoddiad arferol, "Dowch i mewn.'
Ond er curo ddwywaith a thair, a hynny drymach, drymach, nid oedd neb yn ateb. O'r diwedd mentrais godi'r glicied, a cherddais yn araf i'r tŷ. Ar yr aelwyd gwelais Nain yn siglo crud Gwilym bach. Ychydig o sylw a gymerodd hi o'm dyfodiad, a methais â chael nemor o drefn ar ddim a ddywedai, er ei bod yn mwmian