rhywbeth wrthi'i hun yn ddi-dor. Yn y man, daeth mam y babi i mewn, a chododd y bychan er mwyn i mi gael ei weled a'i gusanu (Cofiaf hyd heddyw mor drwsgl y gwneuthum hynny bach o orchwyl). Er bod y baban ym mreichiau ei fam ers meityn bellach, sylwais fod Nain druan yn dal i siglo'r crud! Wrth fy ngweld yn synnu at hyn sibrydodd y fam wrthyf mai felly y byddai Nain beunydd ben.
Pan ddywedais y stori ar ol myned adre clywais adrodd hanesyn arall am Nain Glan Alwen a'r babi. Ymddengys i dad a mam y bychan gael braw mawr rwng dau a thri ryw fore dua'r adeg yma pan gawsant fod gwely bach Nain yn wag a'r gwrthbanau'n oerion. Ar ol chwilio cafwyd hi yn y gegin wedi gwisgo amdani fel arfer, wedi cynneu clamp o dân, wedi goleu cannwyll wêr, a hithau'n ddiwyd siglo'r crud gwag ar yr aelwyd.
Ac nid Nain oedd yr unig un oedd yn dotio ar Wilym. 'Roedd y tad wedi colli'i ben hefyd. Ond fe ddylid cofio hyn—Er mai'r "gŵr ifanc" y gelwid ef ddydd ei briodas ddwy flynedd cynt, " yr hen lanc" oedd ei enw gan bawb y diwrnod cyn y briodas. Felly 'r oedd cryn gwrs o ffoledd hen" yn edmygedd y tad o'i gyntafanedig. Beth a geir i'w ddweyd am y fam? Wel, chwarae teg iddi i feddwl na bu baban erioed cyn broped â'i baban hi.
Hawdd yw deall felly i Wilym gael "byd da yn helaethwych beunydd" rhwng pawb. A gafodd ef ormod o anwes ac o'i ffordd ei hun fel yr unig blentyn sy fater arall. Tyfodd yn hogyn glandeg, cryf, ac