PEN. III.
NID oes angen hysbysu'r sawl a ŵyr am ddinas Llundain y gwneir aberth mawr gan y Cymry sy'n trigo yno i adeiladu addoldai Cymreig, a chadw'r drysau'n agored i'w cydwladwyr hoff a ddylifant yno o Gymru bob blwyddyn—bechgyn a genethod a fuasai'n mynd ar gyfeiliorn diadfer, rai ohonynt, oni buasai am gyfleusterau i addoli Duw yn iaith ac yn null eu tadau. Teithir milltiroedd lawer gan y Cymry ffyddlon hyn bob Saboth er mwyn cadw'r eglwysi Cymreig yn fyw ym mro'r estron. Ceir un o'r cysegroedd hyn yng nghymdogaeth Oxford Street. Bob nos Fawrth, haf a gaeaf, cynhelir yma gyfarfod yn dechreu am wyth. Cyfarfod gweddi un wythnos, a chyfeillach yr wythnos ddilynol. Noson y cyfarfod gweddi oedd yr un y cyfeirir ati'n awr. Nid oedd ond nifer bychan wedi dyfod ynghyd, ond nodweddid pob un o'r rhain gan ffyddlondeb mawr i achos y Meistr. Deg oedd eu rhif y noson hon—tri o frodyr a saith o chwiorydd, sef dwy wraig briod, pedair o chwiorydd ieuainc mewn gwasanaeth, a hospital nurse. Gwelir felly mai un digon cyffredin oedd y cyfarfod gweddi'n y capel bach. Eto'r oedd rhywbeth anghyffredin iawn yn y cwrdd. Clywid rhyw gryndod dieithr yn llais pob un o'r tri a gymerth ran.