arall ar bob tywydd i dŷ'r gŵr hwnnw i drosglwyddo'i lythyrau ef heb iddo orfod croesi'r rhiniog. Nid grwgnach yr wyf yn erbyn y trefniant i'r gŵr parchedig gael ei lythyrau wrth ei ddrws, oblegid 'r oedd Elis Wyn o Wyrfai'n un o'r dynion hyfwynaf, heblaw bod yn un o feirdd gloewaf ei gyfnod. A byth er rhyw fore yn Awst 1868 pan ysgydwodd ef law i groesawu rhyw grwtyn bach i ysgol ddyddiol Llanfihangel Glyn Myfyr am y waith gyntaf erioed y mae fy mharch iddo, ac i'w goffadwriaeth, wedi bod yn fawr. Yn unig gofyn yr wyf pa gysondeb oedd ei fod ef yn cael ei lythyrau wrth y drws pryd nad oedd ei gymdogion yn cael yr eiddynt hwy.
Llawer gwaith y gwelais Elliw Williams yn ymlwybro'n flinedig o'r Persondy tuag adre, wedi teithio milltiroedd meithion er pan gychwynasai'n y bore gyda'i bag lledr dros ei hysgwydd. Digwyddais fod wrth y Persondy un bore pan gyrhaeddodd "Elliw'r Post." Curodd yn drwm ar ddrws y tŷ fel un â'i hamser yn brin, ac heb y duedd leiaf ynddi at unrhyw lol. Atebwyd y bore hwnnw gan y forwyn newydd. "Oh, thank you, Mrs. Williams," ebr hi'n rhodresgar; ac ychwanegodd, "I see you have dirtied your boots this morning, Mrs. Williams. The roads must be damp, I suppose."
Prin y gallai Elliw ei deall, ac yr oedd yn gwbl analluog i'w hateb. Troes ar ei sawdl, a chan frasgamu tuag adre drwy ganol y llaid, dywedodd, yn fwy wrthi'i hunan nag wrthyf i, "Y ditw bach; fase fawr iddi ddwad cyn belled â'r Siop erbyn deg bob bore i arbed