Os oedd ambell gymydog yn amheus a oedd John lawn mor fusgrell ag y dywedid ei fod, yr oedd Elliw yn driw fel dur iddo. Ei hateb bob amser i ymholiad yr ardalwyr, "Sut ma nhw acw heddiw, Elliw Williams?" oedd, "Symol iawn ydi John—heddiw eto." Clywais yr atebiad ugeiniau o weithiau. A dweyd y gwir, 'r oedd ei hateb wedi mynd yn beth hollol ystrydebol ganddi; a dywedai ef yn fynych, mi gredaf, heb ystyried o gwbl i ba raddau'r oedd yn wir.
Un diwrnod ffair yng Ngherrig y Drudion, fel yr oedd yr hen greadures yn troi tuag adre yr eildro, torrodd William Tal Y Fan ati'n sydyn, a gofynnodd iddi yn un o'r ffitiau direidi hynny fyddai'n dod drosto, Sut ma John Williams acw'r dyddie yma, Elliw Williams?" "O, symol iawn ydi John druan, heddiw eto," oedd ei hateb parod, pryd yr oedd John y gwŷdd yn ei fedd ers blynyddoedd!
Fel yr awgrymwyd gadawai Elliw y llythyrau bob bore yn y Siop i aros i'w perchenogion alw amdanynt. Cedwid y Siop yn y cyfnod hwn gan Cadwaladr Ellis —gŵr o athrylith, ac yn ddiwinydd tan gamp. Ond fel 'r oedd gwaetha'r modd arweiniwyd ef gan ei ffawd, nid i gadair yr athro, ond i geisio cadw "siop bach pob peth," at yr hyn orchwyl nid oedd ganddo na thuedd na thalent. Beth feddyliai siopwyr taer y dyddiau hyn—pobl nad yw'n ormod trafferth ganddynt droi ei siop tu chwith allan os gwelant obaith i'r cwsmer brynu rhywbeth a ddwg fymryn o elw iddynt hwy—Beth feddyliai'r cyfryw o ymddiddan fel hyn