Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Drysau Eraill.djvu/88

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

'Ond y lwmp coch sydd ar i dalcen o yn te?" oedd ateb y bach.

Ychydig o hwyl a gai Eben un amser os na chai sefyll wrth ddadleu. Os yn eistedd y digwyddai fod pan ddechreuai'r ornest ddadleuol, codai'n ebrwydd ar ei draed, ac wynebai'r siaradwr, pwy bynnag ddigwyddai hwnnw fod ar yr eiliad. Gosodai'i fraich chwith i orffwys ar draws ei feingefn, a defnyddiai'r dde weithiau i bwynto bys i helpu'r ymresymiad, dro arall caeai ei ddwrn ar ei wrthwynebydd; nid gyda'r bwriad o'i daro, bid siŵr, ond fel alegori mai sylw tarawgar ydoedd yr olaf a wneithid ganddo.

Yr oedd yn Nhŷ'r Capel, fel y cofiaf yn dda, setl wrth ochr y tân, a bwrdd derw cadarn wedi'i osod o'i blaen. A dyna ddifyrrwch a gai'r cwmni pan lwyddid drwy gyd-ddealltwriaeth i osod Eben i eistedd ar y setl wrth y pared gyferbyn â phen pella'r bwrdd derw. Pan boethai'r ddadl, ac y deuai chwant ateb at Eben, rhuthrai i geisio codi. Ond gan ei fod yn dra chorffol, a'r bwrdd derw'n agos ato, methai'n glir faes ag ymunioni, a syrthiai'n ol ar y setl. Cymerai hyn le lawer gwaith yn olynol, a phawb yn chwerthin yn iachus wrth weled yr ymresymwr cryf a'r ysgrythyrwr cadarn wedi'i gornelu—o leiaf, mewn un ystyr.

Rhyw noson enbyd ym mis Ionawr yr oedd ffermwr yn croesi un o drumiau Hiraethog ar gefn ei ferlyn. 'R oedd haenen drwchus o eira claer ar y mynydd ers wythnos; a'r prynhawn hwnnw deuthai ail ystorm. Prin iawn y gallai'r teithiwr gadw'i lygaid yn agored gan faint yr odi-lluwch. Teithiai'n ochelgar rhag