Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Drysau Eraill.djvu/90

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

anifail, a cherddodd y perchennog un ochr i'r merlyn a'r tad yr ochr arall i gadw'r gŵr ifanc rhag cwympo. Dyna'r modd y deuthant o gam i gam i'r ffermdy y cychwynasai'r marchog ohono deirawr cyn hynny. Daeth cynhesrwydd ac ymgeledd ag ymwybyddiaeth yn ol i'r llanc.

Bore drannoeth, gyda'r wawr, gwelid y ffermwr a'i holl dylwyth yn prysur gario ymborth i'r defaid druain oedd ar wasgar hyd lechweddau'r mynydd-dir. Ond y mwyaf ewyllysgar ohonynt oll, a'r mwyaf awyddus i gario'r baich trymaf at y ddiadell bellaf oedd Eben Jones, y teiliwr.

Parhaodd ein hen gyfaill i dalu ymweliadau cyfnodol â'n hardal am flynyddoedd lawer ar ol hyn. Ambell wythnos gweithiai'n Nhŷ'r Capel, brydiau eraill yn yr amaethdai cylchynol. Ond byth ar ol noson enbyd yr odi-lluwch a'r gors anobaith gofalai beidio â mentro'r mynydd ar dywydd mawr; a rhybuddiai eraill i gadw draw am eu bywyd. Sylwais hefyd y byddai'r lwmp ar ei dalcen yn fwy bob amser pan sonid am golli ffordd ar fynydd nag ar unrhyw adeg arall.

Rhai blynyddoedd ar ol y digwyddiad uchod pan ar ymweliad â'n hardal, daeth cais ato i fyned i deilwra mewn ffermdy bychan na buasai'n gweithio ynddo o'r blaen. Pan gyrhaeddodd y tŷ cafodd Lowri Wyn yn llawn ffwdan. Gwir nad oedd teiliwr wedi bod yn aros yn ei thŷ erioed o'r blaen; ac y mae'n syn, dyweder a fynner, fel mae mymryn bach, bach, o ddyrchafiad bydol yn codi i ben ambell ohonom.