hyd yn oed braslunio unrhyw beth. Fy mam, oni sylwasoch fod popeth a baentiais i erioed yn tynnu at lawenydd bywyd? Bob amser ac yn gyson ynglyn â llawenydd bywyd. Drosodd acw, ceir goleuni, heulwen, a dydd Sul dilyffethair—a dynion âg wynebau siriol hapus. Felly, y mae arnaf ofn aros gartref yma gyda chwi.
MEISTRES ALVING: Y mae ofn arnat? Rhag pa beth yr ofni yma gyda mi?
OSWALD: Ofni rhag i'r peth sy'n llosgi ynof dorri allan yn anfoesoldeb yma.
MEISTRES ALVING: A wyt ti'n meddwl y gallai hynny ddigwydd?
OSWALD: Yr wyf yn ddigon sicr. Er i ddyn fyw yr un bywyd yma âg acw—eto, nid yr un bywyd yw.
MEISTRES ALVING (gan gyfodi, wedi gwrando 'n synn, a golwg feddylgar ar ei hwyneb): Bellach, gwelaf gysylltiad pethau â'i gilydd.
OSWALD Beth a welwch?
MEISTRES ALVING: Gwelaf yn awr am y tro cyntaf. Ac yn awr, mi feiddiaf siarad.
OSWALD (gan gyfodi): Fy mam, nid wyf yn eich deall.
REGINE (hefyd wedi cyfodi): Gwell i mi fyned, hwyrach?
MEISTRES ALVING: Nage, aros. Bellach, mi allaf siarad. Bellach, fy mab, cei wybod y cwbl. Ac yna, cei dy ddewis. Oswald! Regine!