Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Dychweledigion (Ibsen).djvu/107

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

MEISTRES ALVING: Felly, eisteddwch am ychydig.

ENGSTRAND: Diolch, mi allaf sefyll.

MEISTRES ALVING (wrth Manders): Felly, yr ydych am fyned gyda 'r llong nesaf?

MANDERS: Ydwyf. Bydd yn hwylio ym mhen yr awr.

MEISTRES ALVING: Ni fynnaf i glywed un gair yn rhagor am y peth. Bellach, y mae gennyf rywbeth arall i feddwl am dano.——

MANDERS: Meistres Alving——

MEISTRES ALVING: Cyn bo hir, mi yrraf lawn awdurdod i chwi drefnu'r cwbl fel y gweloch yn oreu.

MANDERS: Mi wnawn hynny o ewyllys calon. Fel y mae waetha 'r modd, bydd yn rhaid newid llawer ar amcan cyntaf y rhodd.

MEISTRES ALVING: Mae'n eglur.

MANDERS: Felly, mi gredaf mai goreu gadael i'r tir fynd i'r plwyfolion. Nid yw 'r meysydd a'r gweirgloddiau heb eu gwerth eto. Gellir bob amser eu troi hwy at ryw amcan a dalo. A dyna'r arian rhyddion, a adawsom wrth gefn, hwyrach y gallaf roi'r rhai hynny at ryw amcan neu gilydd a fo o ryw les i'r wlad.

MEISTRES ALVING: Fel y mynnoch! Ni waeth gennyf i ar y ddaear!