Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Dychweledigion (Ibsen).djvu/108

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ENGSTRAND: Cofiwch am fy nghartref i ar gyfer morwyr, syr!

MANDERS: Gwnaf, yn sicr, cyn gynted âg y bydd yn barod. Ond rhaid ystyried rhagor am y peth.

ENGSTRAND: A grogo ystyriaeth, na raid!

MANDERS (gan uchneidio): Ac ni wn i ddim, ysywaeth, pa hyd y bydd a wnelwyf fi ddim â'r peth hwn, na pha un a fydd y farn gyhoeddus yn fy ngorfod i'w adael ai peidio. Dibynna 'r cwbl ar ganlyniad yr ymchwiliad ynghylch achos y Tân.

MEISTRES ALVING: Beth?

MANDERS: Ac ni ellir dywedyd ymlaen llaw beth fydd y canlyniad hwnnw.

ENGSTRAND (gan ddynesu): O, gellir, yn ddigon sicr, gellir dywedyd. Dyma Jacob Engstrand——

MANDERS: Ie, ie, ond—?

ENGSTRAND: Ac nid dyn ydyw Jacob Engstrand i adael cymwynaswr ynghanol ei helbul, fel y dywedir.

MANDERS: Ie, fy nghyfaill, ond pa fodd?

ENGSTRAND: Y mae Jacob Engstrand fel angel gwarchod, syr!

MANDERS: Na, na, ni allwn i byth gytuno â hynny.

ENGSTRAND: O, bydd popeth yn iawn. Mi wn am un a gymerodd fai un arall arno eisoes.