MEISTRES ALVING: Mi rof gennad iti wneud hynny yn union deg. Yn awr, eistedd yma gyda ni. (Eistedd Regine yn ddist aw yr ochr arall i'r bwrdd.) Ac yn awr, mi dynnaf y baich chwerw oddiar dy enaid tithau fy machgen druan gwirion
OSWALD: Chwi, 'Mam?
MEISTRES ALVING:—y cwbl yr wyt ti yn ei alw yn edifeirwch, gofid a gwaradwydd
OSWALD: A fedrwch chwi, tybed?
MEISTRES ALVING: Medraf, Oswald, bellach. Soniaist gynneu am lawenydd bywyd, ac yna gwelais innau fy holl fywyd mewn goleuni newydd.
OSWALD (gan ysgwyd ei ben): Nid wyf fi yn deall hynny.
MEISTRES ALVING: Dylasit adnabod dy dad, fel yr oedd yn ddyn ieuanc. Ynddo ef yr oedd llawenydd bywyd—os mynni di!
OSWALD: Ie, mi wn hynny.
MEISTRES ALVING: Yr oedd dim ond golwg arno cystal a dydd o wanwyn. A'r egni diatal a'r bywiowgrwydd oedd ynddo!
OSWALD: Ac yna—?
MEISTRES ALVING: Ac yna, bu raid i'r plentyn bywiog hwn—canys nid oedd ddim amgen na phlentyn y pryd hwnnw—fyned i ryw dref fechan, lle nad oedd llawenydd iachus, dim ond difyrrwch i'w gael. Yno, yr oedd raid iddo aros, heb unrhyw amcan mewn bywyd—nid oedd ganddo