Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Dychweledigion (Ibsen).djvu/123

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

OSWALD (gan neidio ar ei draed a cherdded yn ol a blaen): Ac erbyn hyn, dyma chwi wedi gyrru Regine ymaith oddiwrthyf. Pe buasai hi gyda mi, buasai yn gwneud y gymwynas â mi yn rhwydd!

MEISTRES ALVING (gan fyned ato): Beth yw dy feddwl di, fy mhlentyn annwyl? A oes ryw wasanaeth yn y byd nas gwnawn i iti?

OSWALD Pan gefais yr ergyd y soniais amdani, dywedodd y meddyg—os doi drachefn-ac fe ddaw—na byddai dim gobaith i mi mwy.

MEISTRES ALVINC: Ac yr oedd yn ddigon calon galed i ddywedyd hynny——

OSWALD: Myrnais wybod ganddo. Dywedais wrtho fod yn rhaid i mi drefnu pethau—(chwardd yn gyfrwys). Ac yr oedd hefyd. (Tynn flwch bychan o'i logell.) 'Mam, a welwch chwi hwn?

MEISTRES ALVING: Beth yw?

OSWALD Powdr morphia.

MEISTRES ALVING (mewn dychryn): Oswald, fy anwylyd—?

OSWALD: Y mae yma ddeuddeg pelen fach. MEISTRES ALVING (gan geisio gafael ar y bluch): Dyro'r blwch i mi, Oswald!

OSWALD: Na rof, eto, 'Mam. (Rhydd y bluch yn ei ôl yn ei logell.)

MEISTRES ALVING: Ni allwn i byth ddal hynny!

OSWALD: Rhaid ei ddal. Pe buasai Regine yma gyda mi, dywedaswn wrthi sut y mae arnaf—