OSWALD (ar ei hol): Peidiwch â'm gadael! I ba le yr ewch?
MEISTRES ALVING (yn y cyntedd): I alw am feddyg, Oswald. Gad i mi fynd!
OSWALD (hefyd yn y cyntedd): Nid ewch chwi ddim allan. Ac ni ddaw neb i mewn. (Gan gloi'r drws.)
MEISTRES ALVING (yn dychwelyd i mewn): Oswald! Oswald! fy mhlentyn!
OSWALD (gan ei chanlyn): A oes gennych galon mam tuag ataf—chwi, sy'n fy ngweled mewn ing mor arswydus!
MEISTRES ALVING (ar ol edrych arno, a chan ei meistroli ei hun): Dyma fy llaw i ti arno!
OSWALD: A rowch chwi—?
MEISTRES ALVING: Pan fo rhaid. Ond ni bydd raid. Na, na, nid oes bosibl!
OSWALD: Gobeithiwn, fy Mam. A gadewch i ni fyw gyda 'n gilydd, cyhyd âg y gallom.—Diolch, fy mam! (Eistedd ar y gadair, a lusgodd Meistres Alving at yr esmwythfainc. Tyrr y wawr. Llysg y lamp o hyd.)
MEISTRES ALVING (gan agoshau ato yn ofalus): A wyt ti'n dawelach yn awr, fy mhlentyn?
OSWALD: Ydwyf.
MEISTRES ALVING (gan blygu uwch ei ben) Oswald. Dychymyg ofnadwy sydd gennyt. Dim ond dychymyg! Bu'r holl gynhyrfiadau hyn yn