Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Dychweledigion (Ibsen).djvu/20

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

REGINE: Dyna ddigon o ryw ragrith fel yna! Pam y mynnech fi oddiyma?

ENGSTRAND: Wel, dylit ddeall fod gennyf rywbeth newydd mewn golwg.

REGINE: Yr ydych wedi ceisio lawer gwaith o'r blaen, ond i'r gwellt yr aeth hi bob tro.

ENGSTRAND: Felly y bu; ond y tro hwn, mi synni, Regine!—Diawl a'm 'sgubo i——

REGINE (gan daro'i throed yn y llawr): Dim tyngu yma!

ENGSTRAND: Taw, taw! 'Rwyt ti yn dy le, yn hynny, 'ngeneth i! Mi fynnwn ddywedyd wrthyt, ynteu, fy mod wedi rhoi tipyn o arian o'r neilltu tra bum yn gweithio ar y Cartref newydd yma.

REGINE: Yn wir? Wel, dyna lwc i chi.

ENGSTRAND: Ond sut y gall dyn ddodi ei arian i ddodwy mewn lle fel hyn?

REGINE: Wel, ac wedyn?

ENGSTRAND: Ie, weli di, mi feddyliais am roi'r arian mewn rhywbeth a dalai i mi. Tafarn ar gyfer pobl y môr——

REGINE: Pw! Twt!

ENGSTRAND: Tafarn dan gamp, wyt ti 'n deall: nid rhyw gaban i longwyr cyffredin. Nage, myn f'einioes i—tŷ fydd hwn ar gyfer capteiniaid a swyddogion—a phobl felly, wyt ti 'n deall?

REGINE: A pha beth a wnawn i yno——?