Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Dychweledigion (Ibsen).djvu/26

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

REGINE: A gredwch chwi, Syr? Dywed y feistres garedig yma hefyd fy mod yn gryfach.

MANDERS: Yn gryfach? Ydych, hwyrach, ychydig;—llawn ddigon. (Seibiant byrr.)

REGINE: A gaf i alw ar Meistres Alving?

MANDERS: Diolch, diolch, nid oes frys, fy ngeneth i.—Wel, dywedwch i mi, Regine, pa fodd y mae eich tad yma?

REGINE: Diolch i chwi, syr, y mae yn lled dda.

MANDERS: Y tro diweddaf y bu yn y dref, daeth i edrych amdanaf.

REGINE Yn wir? Bydd yn falch iawn bob amser gael siarad â'r gweinidog.

MANDERS: Ac mi fyddwch chwithau yn galw i edrych amdano yn aml yma?

REGINE: Myfi?—Byddaf, wrth reswm, pan fo gennyf hamdden.

MANDERS: Nid yw'ch tad yn ddyn cadarn iawn, Miss Engstrand. Y mae arno angen arbennig am law i'w arwain.

REGINE: Oes, oes, rhaid i minnau ei rhoi iddo!

MANDERS: Rhaid cael rhywun yn agos ato, rhywun a garo ef, ag y rhoddo bwys ar ei farn. Cyffesodd hynny yn onest ddigon wrthyf y tro olaf y bu acw.

REGINE: Ie, soniodd am yr un peth wrthyf innau hefyd. Ond ni wn i a fedr Meistres Alving wneud hebof, yn enwedig yn awr, a'r holl waith gyda'r