Cartref newydd o'n blaenau. Ac at hynny, mi fydd yn anodd iawn i mi ei gadael hi, a hithau wedi bod mor dda wrthyf erioed.
MANDERS: Ond dyletswydd plentyn, fy ngeneth i. Wrth reswm, rhaid i ni yn gyntaf gael barn eich meistres.
REGINE: Wn i ddim a weddai i mi—yn yr oed yma—edrych ar ôl tŷ dyn o'i fath ef.
MANDERS: Ond, Miss Engstrand annwyl, am eich tad eich hunan yr ydym yn sôn!
REGINE: Ie, purion,—ac eto,—pe bawn i mewn tŷ da, a chyda dyn gweddus
MANDERS: Ond, Regine annwyl
REGINE:dyn y byddai gennaf ymddiried ynddo, ac y gallwn edrych ato fel tad
MANDERS: Ie. Ond, fy mhlentyn annwyl i
REGINE Yna, mi allwn yn hawdd fynd i'r dref. Y mae hi, yn wir, yn unig ofnadwy yma,—ac mi wyddoch chwi, syr, beth yw bod yn unig yn y byd. Mi allaf ddywedyd ar fy ngwir fy mod i yn barod a diwyd, ac o'r goreu o ran ewyllys. Oni wyddoch chwi am ryw le felly i mi, syr?
MANDERS: Myfi? Na wn, yn wir.
REGINE: Ond, Meistr Manders annwyl, cofiwch amdanaf, syr, pe bai—pe bai
MANDERS (gan gyfodi): Wrth reswm, mi gofiaf, Miss Engstrand.
REGINE: Ie, ac yna, pe bawn