MANDERS: Na, na, Meistres Alving; diolch yn fawr i chwi; mi arhosaf yno fel arfer. Y mae'r lle mor gyfleus i mi ddal y llong i fynd yn f'ôl.
MEISTRES ALVING: Wel, mi gewch eich ewyllys. Ond mi fuaswn i yn meddwl y buasem ni, sy'n hen bobl bellach, yn ddigon
MANDERS: Duw fo'm gwarchod, mor gellweirus ydych! Ond y mae'n naturiol i chi heddyw fod yn llawenach nag erioed. Ar un llaw, dyna 'r ŵyl yfory—ac ar y llall, dyma Oswald wedi dyfod adref.
MEISTRES ALVING: Ie, meddyliwch mor hapus wy!! Y mae dwy flynedd a throsodd er pan fu o adref o'r blaen. Ac at hynny, addawodd yntau aros yma drwy'r gaeaf gyda mi.
MANDERS: Yn wir? Y mae hynny 'n dda ac yn garedig iawn arno. Ac y mae'n sicr fod bywyd yn Rhufain a Pharis yn denu llawer mwy arno na'r bywyd tawel sydd yma.
MEISTRES ALVING: Ydyw, ond welwch chi, yma, y mae gyda 'i fam! O, fy machgen annwyl—y mae o yn hoff o'i galon o'i fam!
MANDERS: Ydyw, debyg iawn, peth rhy drist fyddai meddwl fod y byw ar wahan, a holl swyn celfyddyd, yn ddigon i ladd y teimladau naturiol.
MEISTRES ALVING: Ie, yr ydych yn iawn. Ond, diolch i Dduw, 'does dim perigl gydag Oswald. Yr wyf yn awyddus am weld a fuasech yn ei