adnabod eto. Mi ddaw yn union deg; gorwedd y mae, i orffwyso ychydig. Ond, eisteddwch, da chwi, Meistr Manders.
MANDERS: Diolch. A yw 'n gyfleus i chwithau hefyd?
MEISTRES ALVING: O, ydyw! (Eistedd wrth y bwrdd.)
MANDERS: O'r goreu. Yn awr, mi gewch weled (a at y gadair lle gorwedd y gôd, a thyn fwndel o bapurau o honi; eistedd wrth ben arall y bwrdd, a chais le clir i'w bapuran). Dyma i chi yn gyntaf—(ymetyl). Dywedwch i mi, Meistres Alving, sut y daeth y llyfrau hyn yma?
MEISTRES ALVING: Y llyfrau hyn? Llyfrau y byddaf i yn eu darllen ydynt.
MANDERS: A fyddwch chwi yn darllen pethau o'r fath?
MEISTRES ALVING: Byddaf, wrth reswm.
MANDERS: Ac a fyddwch yn teimlo mewn difrif fod darllen y fath bethau yn eich gwneud yn well neu yn ddedwyddach?
MEISTRES ALVING: Byddaf yn teimlo yn dawelach.
MANDERS: Rhyfedd yw hynny. Pa fodd?
MEISTRES ALVING: Wel, am y byddaf yn aml yn cael eglurhad a chadarnhad ar bethau fydd yn rhedeg drwy fy meddwl fy hun. A dyma'r gwir, Meistr Manders,—nid oes dim newydd yn y llyfrau