Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Dychweledigion (Ibsen).djvu/31

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hyn, nid oes ynddynt ddim ond y pethau y mae'r rhan fwyaf o bobl yn eu meddwl a'u credu. Nid yw 'r hyn sydd ynddynt ond y pethau na fyn y rhan fwyaf o bobl fod yn onest yn eu cylch, neu na fynnant wybod amdanynt.

MANDERS Arglwydd mawr! A gredwch chwi, mewn difrif, fod y rhan fwyaf o bobl——?

MEISTRES ALVING: Credaf, yn ddiamau. MANDERS: Ond nid yma, yn ein gwlad ni? Nid yn ein plith ni?

MEISTRES ALVING: O, ie, yn sicr, yma, yn ein plith ni!

MANDERS: Wel, rhaid i mi ddywedyd!——

MEISTRES ALVING: Pa beth, ynteu, sydd gennych i'w ddywedyd yn erbyn y llyfrau hyn?

MANDERS: I'w ddywedyd? Ni chredwch fy mod i yn ymdrafferthu i astudio 'r fath bethau drwyddynt.

MEISTRES ALVING: Y mae hynny ynteu, cystal â chyfaddef na wyddoch ddim pa beth yr ydych yn ei gondemnio.

MANDERS: Darllenais ddigon am y pethau hyn fel y gallaf eu condemnio.

MEISTRES ALVING: Ie, ond eich barn chwi eich hun——

MANDERS: Wraig annwyl, y mae llawer peth mewn bywyd y mae'n rhaid i ddyn ymddiried i arall amdano. Felly y mae hi am y byd hwn, a da