Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Dychweledigion (Ibsen).djvu/36

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

MANDERS: Heblaw hynny—pethau anhyfryd—ni fedraf i yn hawdd—yn wir, mi allwn fy nghael fy hun mewn sefyllfa boenus iawn. Yng nghylchoedd blaenaf y dref, telir sylw mawr i bwnc y Cartrefi hyn. Cyfodir y Cartref, mewn ystyr, er lles y dref, ac y mae'n ddiau y rhydd lawer o gymorth tuag at ysgafnhau treth y tlodion. Yn gymaint âg mai finnau fu eich cynghorwr, ac a wnaeth y trefniadau drosoch, naturiol i mi ofni mai yn f'erbyn i yn gyntaf y cyfodai eiddigedd a malais.

MEISTRES ALVING: Wel, ni bydd raid i chwi wynebu hynny.

MANDERS: Heb sôn am yr ymosod a fyddai arnaf, yn ddiameu, mewn rhyw bapurach a chyhoeddiadach——

MEISTRES ALVING: Dyna ddigon, annwyl Syr; y mae'r ystyriaethau hyn yn ddigon.

MANDERS: Hynny yw, fynnech chwi ddim i ni insiwrio?

MEISTRES ALVING: Na, gadawn iddo.

MANDERS (gan wyro 'n ol ar ei gadair): Ond beth pe digwyddai ryw anffawd? 'Does wybod yn y byd—A allech chwi wedyn gyfarfod y golled?

MEISTRES ALVING: Na allwn. Dywedaf hynny yn blaen. Na allwn, ddim.

MANDERS: Ie, ond wyddoch chwi, Meistres Alving,—yr ydym yn cymryd cyfrifoldeb go fawr arnom ein hunain.