MANDERS: Yn y lle y mae Engstrand yn gweithio?
MEISTRES ALVING: Ie. Dywed y dynion ei fod ef yn aml yn ddiofal iawn gyda'r goleu.
MANDERS: Y mae ganddo gymaint o bethau yn ei ben,—cymaint o demtasiynau. Diolch i Dduw, fel y clywais, y mae o yn ymdrechu byw yn ddifai yn awr.
MEISTRES ALVING: Yn wir? Pwy a ddywedodd hynny?
MANDERS: Y fo 'i hun a roes sicrwydd i mi. A gweithiwr medrus ydyw hefyd.
MEISTRES ALVING: O, ie, cyhyd âg y bydd yn sobr.
MANDERS: Ie, y gwendid anffodus hwn! Ond dywed fod yn rhaid iddo yfed weithiau, oherwydd ei goes ddrwg. Y tro diweddaf y bu gyda mi yn y dref, teimlais yn ddwfn drosto. Daeth acw i ddiolch i mi am y gwaith a gefais iddo yma, oedd yn rhoi cyfle iddo fod yn agos at Regine.
MEISTRES ALVING: Anaml iawn, ynteu, y bydd yn ei gweled hi.
MANDERS: O, na, bydd yn ei gweled bob dydd, dywedodd hynny wrthyf ei hun.
MEISTRES ALVING: O, wel, fe allai hynny!
MANDERS: Y mae ef yn teimlo yn fawr fod arno eisiau rhywun i'w gadw o fewn terfynau, pan ddaw'r demtasiwn arno. Y peth sy'n peri i ddyn