dosturio wrth Jacob Engstrand yw ei fod mor ddiymadferth a'i fod yn achwyn arno 'i hun ac yn cyfaddef ei wendid. Pan oedd acw y tro diweddaf, dywedodd wrthyf—gwrandewch, Meistres Alving,—y buasai 'n llawenydd calon iddo gael Regine eto gydag ef gartref
MEISTRES ALVING: (yn gyffrous): Regine? MANDERS: Ni wiw i chwi fod yn erbyn.
MEISTRES ALVING: O, yn erbyn y byddaf, a'm holl egni. Heblaw hynny, caiff Regine waith yn y Cartref.
MANDERS: Ond, cofiwch mai ef yw ei thad
MEISTRES ALVING: Mi wn yn dda ba fath dad fu ef iddi. Na, nid aiff hi byth yn ei hôl ato, ond ar fy ngwaethaf i.
MANDERS (yn cyfodi): Ond, na chynhyrfwch, da chwi. Truan fel yr ydych yn camddeall Engstrand. Byddai yn wir yn ddrwg gennych
MEISTRES ALVING (yn dawelach): Yr un pryd, cymerais Regine ataf, ac yma yr erys hi. (Gwrendy). Tawn, annwyl Syr, na soniwn ragor am y peth hwn! (Gwen yn goleuo ei hwyneb). A glywch chwi! Y mae Oswald ar y grisiau. Bellach, soniwn amdano ef.
(Daw Oswald Alving i mewn drwy'r drws chwith. Hugan ysgafn amdano, het yn ei law, yntau yn mygu pibell fawr.)