Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Dychweledigion (Ibsen).djvu/43

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

OSWALD: Ydwyf; yr wyf yn cofio 'n dda fel y cymerodd fi ar ei lin, ac y gadawodd i mi fygu'r bibell. "Myga, fachgen," meddai, myga, fel dyn!" A mygais innau â'm holl egni, hyd nes teimlo fy mod yn wyn yn fy wyneb, a'r chwys yn ddafnau breision ar fy nhalcen. A chwarddai yntau yn galonnog——

MANDERS Felly y byddai yn union.

MEISTRES ALVING: Annwyl syr, wedi breuddwydio y mae Oswald.

OSWALD Nage, fy mam, nid breuddwyd na dim tebyg. Yna—onid ydych yn cofio hynny?—daethoch chwithau yno, a'm cymryd ymaith i'r ystafell fagu. Yno, euthum yn sal, a sylwais eich bod chwithau yn wylo.—A fyddai fy nhad yn gwneud rhyw gastiau felly yn aml?

MANDERS: Yn ei ieuenctid, dyn rhyfeddol am ddigrifwch ydoedd

OSWALD: A gwnaeth gymaint yn y byd yma. Cymaint o ddaioni a lles—ac eto, nid oedd yn hen!

MANDERS: Ie, f'annwyl Oswald Alving, yr ydych mewn gwirionedd wedi etifeddu enw dyn da a theilwng. Gobeithio y bydd hynny yn symbyliad i chwi——

OSWALD: Mi fydd felly, yn wir.

MANDERS: Sut bynnag, ffodus iawn oedd i chwi ddyfod adref erbyn diwrnod y coffau amdano.