MANDERS: Byw gyda'i gilydd gyda mam ei blant!
OSWALD: Ie! Neu a fyddai well iddo droi mam ei blant ymaith?
MANDERS: Sôn yr ydych ynteu am gysylltiadau anghyfreithlon! Am y pethau a elwir yn briodasau gwylltion?
OSWALD: Ni welais i erioed ddim byd gwyllt iawn ym mywyd y bobl hyn gyda'i gilydd.
MANDERS: Ond sut y mae'n bosibl i—i ddyn gweddol gywir, neu ferch ieuanc fo'n ei pharchu ei hun, fyw fel hyn—a hynny yng ngŵydd pawb!
OSWALD: Ond beth a wnant? Paentiwr ifanc, tlawd,—geneth ifanc, dlawd. Costiai lawer o arian iddynt pe mynnent briodi. Pa beth a wnant, ynteu?
MANDERS: Pa beth a wnant? Wel, Meistr Alving, mi ddywedaf i chwi pa beth y dylent ei wneud. Dylent o'r dechreu ymgadw ar wahan, dyna a ddylent.
OSWALD: Ni byddai nemor werth ar siarad fel yna wrth bobl ieuainc a'u gwaed yn boeth, ac a fo'n caru ei gilydd.
MEISTRES ALVING: Na, ni byddai nemor werth!
MANDERS: A bod yr awdurdodau yn goddef y fath beth! Y gellir gwneud y fath beth yn gyhoeddus! (Saif o flaen Meistres Alving.) Yn awr, onid oedd wir achos i mi fod yn bryderus am