Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Dychweledigion (Ibsen).djvu/47

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

eich mab? Mewn cylchoedd lle goddefir anfoesoldeb agored, ac y mae hyd yn oed y gyfraith yn gadael iddo—

OSWALD Mi ddywedaf rywbeth wrthych, syr. Byddwn yn ymweled bob dydd Sul â theuluoedd felly——

MANDERS: A hynny hefyd ar ddydd Sul!

OSWALD: Debyg iawn. Dyna 'r dydd y gall dyn ddifyrru tipyn arno ei hun. Ond ni chlywais i erioed yn eu mysg air amhriodol, ac ni welais ond ychydig erioed o ddim y gallai dyn ei alw yn anfoesoldeb. Naddo; a wyddoch chwi ba bryd ac ym mha le y cefais i hyd i anfoesoldeb yn y cylchoedd hyn?

MANDERS: Na, diolch i Dduw, ni wn i ddim.

OSWALD Felly, mi fyddaf mor hy a dywedyd wrthych. Mi a'i gwelais pan fyddai un neu arall o'r gwŷr priod a'r tadau, a osodir allan fel patrwm i bobl, wedi dyfod acw i weled ychydig trostynt eu hunain—yna, bydd y paentwyr yn cynnyg eu cymryd gyda hwy i'r gwahanol dafarnau lle'r ant eu hunain. Dyna 'r pryd y dysgwn ni bethau! Gall y gwŷr bonheddig hyn sôn wrthym am bethau a lleoedd na byddwn ni erioed wedi breuddwydio amdanynt.

MANDERS: Beth? A feiddiwch chwi mewn difrif ddywedyd fod gwŷr priod oddi yma yn myned——?