MEISTRES ALVING: Fod Oswald yn iawn ym mhob peth a ddywedodd.
MANDERS (gan sefyll yn synn): Iawn? Iawn! Gyda 'r fath egwyddorion!
MEISTRES ALVING: Manders, yr wyf innau, yma, ar fy mhen fy hun, wedi dyfod i feddwl yr un fath. Ond ni bum erioed yn ddigon hy i ddywedyd hynny. Ond bellach, gall fy mab siarad drosof.
MANDERS Gwraig mewn cyflwr gresynus ydych, Meistres Alving. Eto, rhaid i mi siarad o ddifrif â chwi. Ond nid eich cynghorwr, nid cyfaill ieuenctid eich diweddar ŵr a chwithau, sydd o'ch blaen yn awr. Y gweinidog sydd yma! A saif o'ch blaen yn yr ennyd drymaf yn hanes eich bywyd.
MEISTRES ALVING: A pha beth sydd gan y gweinidog i'w ddywedyd wrthyf?
MANDERS: Rhaid i mi ysgwyd ychydig ar eich cof, Meistres Alving. Y mae 'r achlysur yn un cymwys. Yfory, bydd deng mlynedd er pan gladdwyd eich gwr. Yfory, agorir y Cartref a godwyd er cof amdano; yfory, byddaf innau yn siarad o flaen torf o bobl;—ond heddyw, mi siaradaf â chwi eich hun.
MEISTRES ALVING: Da iawn, syr, siaredwch!
MANDERS: Oni chofiwch eich bod chwi, cyn pen y flwyddyn ar ôl priodi, yn sefyll ar ymyl y dibyn? Eich bod chwi wedi gadael eich tŷ a'ch cartref