Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Dychweledigion (Ibsen).djvu/50

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

eich bod wedi gadael eich gwr; ie, Meistres Alving, wedi ei adael, ei adael, ac yn gwrthod mynd yn eich ôl ato, er maint a erfyniai ac a grefai?

MEISTRES ALVING: Ai angof gennych chwithau mor gwbl druenus oeddwn yn ystod y flwyddyn honno?

MANDERS: Dyna union ysbryd trybini bob amser, ei fod yn wastad yn ceisio hapusrwydd mewn bywyd. Pa hawl sydd gennym ni ddynion. i hapusrwydd? Na, gwneuthur ein dyledswydd a ddylem, Meistres Alving! A'ch dyletswydd chwi ydoedd dal yn dynn at eich gŵr, unwaith wedi i chwi ei ddewis ac wedi eich rhwymo mewn cwlwm cysegredig âg ef.

MEISTRES ALVING: Gwyddoch yn dda ba fath fywyd a arweiniai Alving yn ei ieuenctid, mor anghymedrol ydoedd.

MANDERS: Gwn, ysywaeth, am y sôn oedd amdano; a myfi fyddai'r olaf i esgusodi ei ymddygiad yn ystod ei ieuenctid. Ond ni osodwyd y wraig megis barnwr ar ei phriod. Eich dyled chwi oedd dwyn y groes yn ostyngedig, croes a osodwyd arnoch gan ewyllys uwch. Ond yn lle hynny, bwriasoch ymaith y groes mewn digofaint, gadawsoch y syrthiedig, y dylasech ei gynnal, aethoch ymaith gan wneuthur gwawd o'ch enw da a'ch clod eich hunan, ac heblaw hynny, o glod un arall hefyd.