fath ddyn oedd tad fy mhlentyn. Heblaw hynny, gwyddoch mor ddeniadol y medrai Alving fod. Y mae'n ymddangos na fedrai neb feddwl ond da amdano. Un oedd ef o'r dynion hynny y mae eu geirda yn well na'u buchedd. Ond eto, Manders—cewch wybod hynny hefyd—yna, daeth y peth atgasaf o'r cwbl.
MANDERS: Dim atgasach fyth?
MEISTRES ALVING: Dioddefais y cwbl, er y gwyddwn yn dda pa beth a ddigwyddai yn gudd oddi allan i'r tŷ hwn. Ond yna, daeth y gwaradwydd i'r golwg rhwng y parwydydd hyn
MANDERS Beth? Yma?
MEISTRESS ALVING; Ie, yn ein tŷ ni ein hunain. Yna (gan estyn ei llaw tuag at y drws cyntaf ar y dde) yn yr ystafell fwyta y deuthum i wybod am y peth gyntaf. Yr oeddwn yn gwneud rhywbeth yno, ac yr oedd y drws yn hanner agored. Clywais un o'r morwynion yn dyfod o'r ardd, gyda dwfr i'r blodau.
MANDERS: Yna?
MEISTRES ALVING: Yr un pryd, clywais swn Alving yn dyfod. Clywais ef yn siarad yn ddistaw â hi. Ac yna clywn—(gyda chwerthiniad ysgafn). Ah, y mae'n swnio yn fy nghlustiau 'r funud yma mor boenus a gwrthun!—clywn fy morwyn fy hun yn sisial-" Gollyngwch fi, syr! Gadewch lonydd i mi!"