MANDERS: Y fath ysgafnder diesgus ar ei ran! O, nid oedd ond rhyw ysgafnder, Meistres Alving, credwch fi.
MEISTRES ALVING: Gwybûm yn fuan pa beth oedd i'w ddisgwyl. Gosododd yr ysgwier ei fryd ar yr eneth, a bu canlyniad i hynny, Meistr Manders.
MANDERS (mewn dychryn): A hynny oll yn y tŷ hwn! Yn y tŷ hwn!
MEISTRES ALVING: Gwelais lawer o bethau yn y tŷ hwn. Er mwyn ei gadw yn y tŷ gyda'r hwyr—drwy'r nos—byddai raid i mi fod yn gydymaith iddo yn ei gyfeddach yn ei ystafell ei hun. Yno, byddai raid i mi eistedd fy hun gydag ef, a chlecian gwydrau ac yfed, a gwrando ar ei siarad gwag, gan dreulio fy holl nerth wrth ymdrechu âg ef a cheisio ei lusgo i'w wely
MANDERS (gan ymwingo): Dioddef yr holl bethau hyn!
MEISTRES ALVING: Fy machgen bychan, drosto ef y dioddefwn. Ond fel y daeth y gwaradwydd olaf, drwy fy morwyn fy hun—; yna, tyngais i mi fy hun dyma 'r diwedd! Ac yna, cymerais yr awdurdod i'm llaw fy hun yn y tŷ—yr holl awdurdod—arno ef yn gystal ag ar bawb arall. Yr oedd gennyf erfyn yn ei erbyn bellach, chwi welwch; ni feiddiai wrthwynebu. Yna yr oedd Oswald yn tyfu. Yr oedd yn ei seithfed flwydd,