Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Dychweledigion (Ibsen).djvu/58

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ac yn dechreu sylwi a holi, fel y bydd plant. Ni allwn oddef hyn, Manders. Teimlwn y gwenwynid y plentyn os anadlai awyr y cartref aflan, llygredig hwn. Am hynny, danfonais ef ymaith. Ac yn awr, fe ddeellwch paham na bu a'i droed oddi mewn i'r tŷ byth wedyn tra fu byw ei dad. Ni ŵyr neb faint a gostiodd y cwbl i mi.

MANDERS: Mewn gwirionedd, dysgasoch adnabod bywyd.

MEISTRES ALVING: Ac ni allaswn byth ei ddioddef, oni bai'r gwaith oedd gennyf. Ie, gallaf ddywedyd fy mod wedi gweithio! Helaethu a gwella 'r ystâd, yr holl drefniadau llesol y clodforid ac y canmolid Alving o'u plegid, a dybiwch chwi ei fod ef yn malio gronyn amdanynt? Efe, a orweddai ar ei fainc esmwyth drwy'r dydd, gan ddarllen rhyw hen gronicl! Na; ond mi soniaf am hynny wrthych hefyd; myfi fyddai yn ei ddifyrru pan ddoi ei oriau ysgeifn; myfi oedd yn gorfod dwyn yr holl faich pan syrthiai drachefn i'w anghymedroldeb, neu pan fyddai mewn trueni a salwch ar unwaith.

MANDERS: Ac er cof am y dyn hwn, dyma chwi yn codi'r cartref!

MEISTRES ALVING: Dengys hynny i chwi rym cydwybod ddrwg!

MANDERS: Cydwybod ddrwg? Pa beth yw eich meddwl?