Prawfddarllenwyd y dudalen hon
ystafell fwyta, clywir swn cadair yn syrthio; yr un eiliad, clywir-)
REGINE (yn chwyrn, ond yn yn isel): Oswald—Oswald! A wyt ti o'th gof? Gad lonydd i mi!
MEISTRES ALVING (yn gynhyrfus iawn): Ah! (cychwynna megis mewn dychryn tua'r drws hanner agored. Clywir Oswald yn pesychu ac yn hymian canu. Swn tynnu corcyn potel).
MANDERS (yn gyffrous): Ond beth sydd! Beth sydd, Meistres Alving?
MEISTRES ALVING (yn gryg): Drychiolaethau! Y ddau yn y tŷ gwydr—dacw hwy yn mynd o gwmpas!
MANDERS: Beth a ddywedwch? Regine?—Hi ydyw—?
MEISTRES ALVING: Ie. Dowch. Dim gair! (Cydia ym mraich y gweinidog, ac a gan ymroncio tua'r ystafell fwyta).