ydyw—. Ond, arglwydd mawr! Meistres Alving, a oes bosibl? Hwyrach eich bod yn methu!
MEISTRES ALVING: Ysywaeth, nid methu yr wyf. Bu raid i Johanna gyfaddef y cwbl wrthyf,—ac ni allai Alving wadu. Nid oedd dim arall i'w wneud ond mygu'r peth rywsut.
MANDERS: Ie, dyna'r unig beth a ellid.
MEISTRES ALVING: Bu raid i'r eneth adael ei lle rhag blaen, a chafodd swm cymwys o arian, er mwyn tewi am byth. Ymdarawodd drosti ei hun wedyn, ac aeth i'r dref. Adnewyddodd ei chydnabyddiaeth â'r saer Engstrand; y mae'n debyg iddi roi ar ddeall iddo faint o arian oedd ganddi, ac ymhellach dywedodd rywbeth wrtho am ryw estron a fu yma yn ystod yr haf gyda'i long bleser. Yna, priodwyd Engstrand a hithau rhag blaen. Ie, chwi eich hun a'u priododd.
MANDERS: Ond sut y gallwn i wybod y pethau hynny? Cofiaf yn dda hyd heddyw fel y daeth Engstrand ataf i drefnu 'r briodas. Yr oedd yn edifeiriol iawn, ac yn achwyn yn chwerw yn erbyn y gwendid a'i gwnaeth ef a'i anwylyd yn feius.
MEISTRES ALVING: Ie, 'roedd raid iddo gymryd y bai i gyd ei hun.
MANDERS: Ond y fath ffalster ar ei ran! A hynny tuag ataf innau! Ni buaswn yn wir yn disgwyl hynny gan Jacob Engstrand. Cymeraswn ef mewn llaw, ac eto, gallai ymollwng felly. A