gwaradwydd y fath ymrwymiad! O chwant arian! Pa faint, dybiech chwi, oedd y swm a dalwyd i'r eneth?
MEISTRES ALVING: Tri chant o bunnau.
MANDERS: Ond meddyliwch—ei rwymo ei hun â merch syrthiedig am ryw swm salw o drichant o bunnau!
MEISTRES ALVING: Beth a ddywedech ynteu amdanaf fi, yn cymryd fy rhwymo â dyn syrthiedig?
MANDERS: Duw fo'n gwarchod! Beth a ddywedsoch? Dyn syrthiedig!
MEISTRES ALVING: Meddwl yr ydych, hwyrach, fod Alving yn lanach, pan euthum i at yr allor gydag ef, nag oedd Johanna pan briododd hi Engstrand?
MANDERS: Ond y mae'r ddau beth yn wahanol iawn i'w gilydd.
MEISTRES ALVING: Dim mymryn o wahaniaeth rhyngddynt, ond y gwahaniaeth mawr yn y pris—rhyw swm salw o drichant o bunnau—a ffortun fawr!
MANDERS: Sut y gellwch chwi osod dau beth mor anhebyg gyferbyn â'i gilydd? Gwnaethoch chwi yn ôl eich serchiadau eich hunan a chyngor eich perthynasau!
MEISTRES ALVING: Tybiech, mi gredaf, fod y peth y soniech amdano fel fy nghalon wedi mynd ar gyfeilorn y pryd hwnnw.