Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Dychweledigion (Ibsen).djvu/67

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

MANDERS: Beth feddyliwch wrth hynny?

MEISTRES ALVING (gan guro ar wydr y ffenestr): Ni ddylaswn guddio bywyd Alving o gwbl. Ond y pryd hwnnw ni wyddwn i sut amgen i weithredu, ac ni fynswn hynny chwaith, o'm plegid fy hun. Felly llwfr oeddwn.

MANDERS: Llwfr?

MEISTRES ALVING: Pe gwybuasai pobl rywbeth, dywedasent: Druan gŵr, hawdd deall ei fod yn byw 'n anghymedrol, a chanddo yntau wraig a'i gadawodd.

MANDERS: A buasai cryn lawer o wir yn y dywediad hefyd.

MEISTRES ALVING (gan graffu arno): Pe buaswn i fel y dylaswn fod, yna cymeraswn Oswald, a dywedaswn wrtho: gwrando, fy mab, dyn gwaradwyddus yw dy dad——

MANDERS: Ond, arglwydd trugarog!

MEISTRES ALVING: Ac yna dywedaswn wrtho bopeth a ddywedais wrthych chwithau—bob tipyn!

MANDERS: Meistres Alving, yr wyf bron ag arswydo rhagoch!

MEISTRES ALVING: Mi wn, mi wn hynny yn dda! Rwy 'n arswydo fy hun rhag y meddwl. (Try oddiwrth y ffenestr.) Mor llwfr oeddwn!

MANDERS: A llwfr y gelwch eto, os gwnewch eich dyletswydd a'ch rhwymedigaeth. Ai angof gennych y dylai plentyn barchu ei dad a'i fam?