Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Dychweledigion (Ibsen).djvu/79

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

MANDERS: Ie, mi wn, Engstrand. Taflodd y cnafon chwi i lawr y grisiau. Clywais yr hanes lawer gwaith gennych. Y mae 'ch clod yn eich clwyf.

ENGSTRAND: Nid wyf yn ymffrostio dim am hynny, syr. Ond dyma'r hyn y mynnwn ei ddywedyd. Daeth Johanna ataf, a chyfaddefodd ei hanffawd gan feichio wylo. Rhaid i mi gydnabod, syr, fod ei chlywed yn boen i'm henaid.

MANDERS: Mewn gwirionedd, Engstrand? A pha beth wedyn?

ENGSTRAND: Wel, dywedais wrthi: y mae'r Americanwr yn hwylio 'r môr mawr yma ac acw. A thithau, Johanna, meddwn, cefaist gwymp, ac yr wyt yn greadur colledig. Ond y mae Jacob Engstrand, meddwn, sydd a'i ddau droed tano—mewn ffordd o siarad y dywedais i hynny, syr—

MANDERS: 'Rwy'n deall yn burion. Ac wedyn?

ENGSTRAND: Wel, cytunais â hi, a phriodais hi, fel na chai pobl ddim gwybod am ei hanffawd gyda'r estron.

MANDERS: Da y gwnaethoch hynny, ond nid allaf gydnabod fod yn addas i chwi dderbyn arian am——

ENGSTRAND: Arian? Myfi? Dim un ffyrling!

MANDERS (gan droi at Meistres Alving): Ond——