rhywbeth, tewi a bod yn ddistaw y bydd. Ysywaeth, ni bydd hynny yn digwydd yn aml. phan fyddaf yn dyfod at y gweinidog heb law hynny, bydd gennyf gymaint i'w ddywedyd am fy ngwendidau a'm drygioni. Dyna paham y dywedais gynnau—gall y gydwybod boeni dyn yn arw, o dro i dro.
MANDERS: Rhowch eich llaw i mi, Jacob Engstrand.
ENGSTRAND: Arglwydd mawr, syr!
MANDERS: Dim llyfon! (Gan ysgwyd ei law.) Popeth yn iawn!
ENGSTRAND: Ac os caf ofyn eich pardwn, syr—
MANDERS: Chwi? Nage, fel arall. Myfi a ddylai ofyn pardwn—
ENGSTRAND: Nage! Duw fo'n gwarchod!
MANDERS: Ie, yn wir Ac yr wyf yn ei ofyn o ewyllys calon. Maddeuwch i mi am eich cam-ddeall gymaint. A rhoed Duw i mi gyfle yn fuan i roi praw o'm hedifeirwch a'm hewyllys da—
ENGSTRAND: A wnaech chwi hynny, syr?
MANDERS: Gyda'r hyfrydwch mwyaf—
ENGSTRAND: Wel, dyma gyfle. Gyda'r arian a gynilais yma, yr wyf yn meddwl am agor tŷ i forwyr yn y dref.
MEISTRES ALVING: Yn wir?
ENGSTRAND: Ydwyf, math o gartref fydd. Y mae cymaint o demtasiynau ar ffordd morwyr pan